Tystysgrifau allforio bwyd

Os oes gennych chi fusnes bwyd ac mae arnoch chi eisiau allforio eich cynnyrch, efallai bod arnoch chi angen tystysgrif allforio bwyd gan y wlad rydych chi’n bwriadu allforio iddi.

Sut ydw i’n gwneud cais am dystysgrif allforio bwyd?

Cysylltwch â llysgenhadaeth y wlad rydych chi eisiau allforio iddi (bydd manylion y llysgenhadaeth ar wefan Y Swyddfa Dramor a Chymanwlad (gwefan allanol)). Bydd y llysgenhadaeth neu’r conswl yn darparu manylion a ffurf y dystysgrif.

Wedyn dylech gysylltu â ni i ddarparu’r wybodaeth yma.

Byddwn yn archwilio eich busnes i wirio bod y bwyd yn cael ei gynhyrchu yn unol â deddfwriaeth y DU. Efallai y byddwn yn gwneud gwiriadau ychwanegol, yn dibynnu ar eiriad y dystysgrif.

Ni fyddwn yn darparu tystysgrif oni bai bod eich busnes bwyd wedi ei gofrestru.

Faint mae’n costio?

Rydym ni’n codi cyfradd unradd o £170 am dystysgrif allforio bwyd.

Rhagor o Wybodaeth

Mae rhagor  o wybodaeth ar gael ar wefan yr Asiantaeth Safonau Bwyd (gwefan allanol).