Newid hinsawdd ac ecolegol: Beth allwch chi ei wneud i helpu

Mae llawer o bethau y gallwch chi fel unigolion, busnesau a sefydliadau cymunedol eu gwneud i helpu gyda newid hinsawdd ac ecolegol.

Arbedwch ynni a charbon yn eich cartref

Mae bob un ohonom yn defnyddio llawer o ynni, gydag adeiladau yn defnyddio 40% o ynni cyffredinol ac yn gyfrifol am 36% o gyfanswm yr allyriadau CO2, gan gyfrannu at gynhesu byd-eang. Mae arbed, neu warchod ynni, nid yn unig yn cael effeithiau cadarnhaol ar yr amgylchedd, ond bydd hefyd yn arbed arian i chi drwy leihau biliau ynni a'ch helpu i'ch cadw'n gynhesach. Mae gwella perfformiad ynni eich tŷ yn un ffordd yn unig o warchod ynni. Y prif ffyrdd eraill yw lleihau eich biliau tanwydd a sicrhau eich bod yn defnyddio ynni’n effeithlon.

Rhagor o wybodaeth

Cymryd rhan yn y Cynllun Addewid Gwyrdd i’r Gymuned

Mae Bwrdd Gwasanaethau Cyhoeddus Conwy a Sir Ddinbych wedi lansio menter Addewid Gwyrdd i’r Gymuned i helpu grwpiau cymunedol a sefydliadau i wneud newidiadau sy’n cael effaith gadarnhaol ar yr amgylchedd.

Mwy o wybodaeth am yr Addewid Gwyrdd i’r Gymuned (gwefan allanol)

Siopa'n Lleol

Helpu i ostwng eich ôl troed carbon trwy siopa'n lleol lle gallwch chi.

Mae gan Sir Ddinbych, a’r ardal gyfagos, amryw o gynhyrchwyr a chyflenwyr nwyddau ecogyfeillgar lleol megis:

Ychwanegwch eich busnes at ein rhestr o gynhyrchion a chyflenwyr lleol o gynhyrchion ecogyfeillgar 

Os yw eich busnes yn cynhyrchu a/neu’n cyflenwi cynhyrchion ecogyfeillgar a wnaed/a dyfwyd yn lleol, gallwch eu hychwanegu at ein rhestr o gynhyrchwyr a chyflenwyr cynhyrchion ecogyfeillgar lleol.

Ychwanegwch eich busnes at ein rhestr o gynhyrchwyr a chyflenwyr lleol o gynhyrchion ecogyfeillgar

Byw’n fwy cynaliadwy

Mae Canolfan y Dechnoleg Amgen (CAT) yn darparu cyngor annibynnol a diduedd am ddim am gynaliadwyedd a byw’n gynaliadwy gan gynnwys:

  • ynni adnewyddadwy
  • adeiladu ac ailwampio gwyrdd
  • trin dŵr a charthffosiaeth
  • tyfu’n organig a mwy

Ewch i wefan Canolfan y Dechnoleg Amgen am fwy o wybodaeth (gwefan allanol)

Gwneud eich busnes yn gynaliadwy

Mae gan yr Ymddiriedolaeth Garbon amryw o offer, canllawiau ac adroddiadau i helpu’ch busnes neu’ch sefydliad i gyflawni'ch nodau cynaliadwyedd.

Ewch i wefan yr Ymddiriedolaeth Garbon am fwy o fanylion am sut i redeg eich busnes yn fwy cynaliadwy (gwefan allanol)

Helpu i adfer natur

Mae angen help pawb ar natur a bioamrywiaeth byd-eang. Mae gan Ymddiriedolaeth Natur Gogledd Cymru gyfleoedd gwirfoddoli ar gael ac mae’n darparu mynediad at weithgareddau, gwybodaeth a digwyddiadau bywyd gwyllt er mwyn annog pobl i’w amddiffyn a’i ddathlu.

Mae mwy o wybodaeth ar gael ar wefan Ymddiriedolaeth Natur Gogledd Cymru (gwefan allanol)


Carbon Literate Organisation (Bronze) logo