1bws

Mae’r tocyn aml-weithredwr 1bws newydd yn rhoi mynediad i chi i 27 o weithredwyr bysiau a 196 o lwybrau bysiau ledled Gogledd Cymru. Gallwch ei ddefnyddio i deithio ar wasanaethau unrhyw weithredwr hyd at y daith olaf ar y diwrnod y caiff ei brynu. 

Logo 1bws

Gallwch brynu tocyn dydd 1bws yn uniongyrchol gan yrrwr y bws cyntaf rydych yn ei ddal gan ddefnyddio arian parod neu ddefnyddio cerdyn digyffwrdd. Ar bob taith ddilynol, dangoswch god QR eich tocyn i’r peiriant sy’n sganio tocynnau.

Lle allwch chi ddefnyddio tocyn 1bws

Mae tocynnau 1bws yn ddilys ar bob gwasanaeth bws lleol yn Sir Ddinbych, Sir y Fflint, Conwy, Wrecsam, Gwynedd ac Ynys Môn.  Gallwch hefyd ddefnyddio tocyn 1bws ar y gwasanaethau bws hynny sy’n dechrau neu’n gorffen yng Nghymru ac yn gweithredu yn uniongyrchol i Gaer, Ellesmere Port neu Tre-Groes (Shropshire). Felly er enghraifft, mae 1bws ar gael ar gyfer y daith gyfan ar wasanaeth 11 rhwng Y Rhyl a Chaer.

Eithriadau

Mae yna ychydig o eithriadau. Dim ond rhwng Wrecsam a’r Waun ar T12 y mae 1bws yn ddilys ac nid yw ar gael ar wasanaeth Townlynx 28 rhwng Yr Wyddgrug a’r Fflint. Mae 1bws ar gael ar wasanaeth 6 Townlynx rhwng Yr Wyddgrug a Phantymwyn ond mae'n bosibl na fydd taliad digyffwrdd ar gael ar y gwasanaeth hwnnw. Nid yw 1bws ar gael i’w ddefnyddio ar wasanaethau i dwristiaid (er enghraifft X10) heblaw am 199 yn Llangollen.

Beth yw'r prisiau?

Prisiau tocynnau 1bws
Math o docynPris
Oedolyn £6 y dydd
Plentyn (15 oed ac iau) £4
Deiliad FyNgherdynTeithio £4
Consesiwn (deiliad tocyn consesiwn yn Lloegr neu’r Alban) £4
Teulu (hyd at 2 oedolyn a hyd at 3 o blant) £13