Cwynion am gludiant cyhoeddus

Os ydych chi’n anfodlon gyda gwasanaeth bws lleol y peth gorau i chi wneud ydi cysylltu â’r cwmni bysiau.

Mae manylion cyswllt y cwmnïau bysiau sy’n darparu gwasanaeth yng Nghymru ar gael ar wefan Traveline Cymru (gwefan allanol).

Os ydych chi wedi cysylltu â’r cwmni yn anfodlon gyda'u hymateb neu os ydych chi’n teimlo nad ydych chi wedi cael eich trin yn deg, fe allwch chi fynd â'ch cwyn gam ymhellach.

I gwyno am wasanaeth bws masnachol, cysylltwch â Bus Users UK (gwefan allanol)

I gwyno am wasanaeth bws cymorthdaledig: (1, X1, 2, X5, 11 (nosweithiau yn unig), 14, 37, 40, 41, 43, 45, 46, 47, 54, 55, 62, 64, 71, 72, 73, 76, 77, 91, 95, 98, T3, X50 and X52 (nosweithiau a Dydd Sul yn unig):

Fe allwch chi gysylltu â ni arlein neu drwy ffonio 01824 706964. Fe allwch chi hefyd anfon llythyr i:

Cludiant Teithwyr
Cyngor Sir Ddinbych
Caledfryn
Ffordd y Ffair
Dinbych
LL16 3RJ