Terfynau Cyflymder 20mya: Cwestiynau Cyffredin



Ble allaf i gael rhagor o wybodaeth am ddeddfwriaeth 20mya Llywodraeth Cymru a pham mae'n cael ei chyflwyno ledled Cymru?

Edrychwch ar wefan Llywodraeth Cymru (gwefan allanol)

Yn ôl i'r brig


A fydd terfyn cyflymder holl ffyrdd Sir Ddinbych yn newid i 20mya ar 17 Medi?

Ar 17 Medi 2023, bydd pob Ffordd Gyfyngedig yn newid i 20mya.

Yn ôl i'r brig


Beth yw Ffordd Gyfyngedig?

Ffyrdd Cyfyngedig yw ffyrdd sydd â goleuadau stryd ac sy’n destun terfyn cyflymder 30mya ar hyn o bryd. Mae mwyafrif y ffyrdd yn ein dinas, trefi a’n pentrefi yn Ffyrdd Cyfyngedig.

Yn ôl i'r brig


Pa feini prawf fydd y Cyngor yn eu dilyn wrth gyflwyno deddfwriaeth 20mya newydd Llywodraeth Cymru?

Yr egwyddor y tu ôl i’r ddeddfwriaeth newydd yw y bydd 20mya yn dod yn derfyn cyflymder rhagosodedig yn ein dinas, trefi a phentrefi. Mae Llywodraeth Cymru wedi darparu meini prawf i eithrio rhai ffyrdd rhag y terfyn cyflymder rhagosodedig, gweler Cwestiwn 5 (isod).

Yn ôl i'r brig


Mae Llywodraeth Cymru wedi cyhoeddi 'meini prawf eithriadau' sy'n nodi sut y gall awdurdodau priffyrdd osod eithriadau mewn perthynas â therfynau cyflymder 20mya ar ffyrdd cyfyngedig yng Nghymru. A allai'r Cyngor eithrio fy ffordd i?

Yn ôl canllawiau Llywodraeth Cymru, os nad yw ffordd yn bodloni un o’r meini prawf isod, yna gellid ei hystyried fel eithriad posibl ar y sail ei bod yn annhebygol iawn y byddai cerddwyr yn croesi’r ffordd honno. Yn ymarferol, mae bron pob un o’r ffyrdd yn ninas, trefi a phentrefi Sir Ddinbych yn bodloni’r olaf o’r pedwar maen prawf isod ('maen prawf rhif 4.).

Meini prawf Llywodraeth Cymru:

  1. A oes ysgol neu sefydliad addysgol arall o fewn 100 metr i’r ffordd?
  2. A oes canolfan gymunedol o fewn 100 metr i’r ffordd?
  3. A oes ysbyty o fewn 100 metr i’r ffordd?
  4. A oes eiddo preswyl neu fanwerthu ar ymyl y ffordd, a mwy nag 20 eiddo fesul cilomedr o ffordd (h.y. 5 eiddo neu fwy ar bob 250 metr o’r ffordd)?

Yn ôl i'r brig


Os caiff fy ffordd i ei hystyried yn eithriad, pryd fydd terfyn cyflymder 30mya yn cael ei ailosod?

Ar hyn o bryd rydym yn creu dogfen gyfreithiol o'r enw Gorchymyn Rheoleiddio Traffig a fydd yn nodi mai 30mya yw'r terfyn cyflymder ar yr holl ffyrdd y bwriedir eu gwneud yn eithriadau. Daw’r Gorchymyn Rheoleiddio Traffig hwn i rym pan ddaw’r terfyn cyflymder rhagosodedig o 20mya i rym. Mae hyn yn golygu y bydd y terfyn cyflymder yn parhau ar 30mya ar y ffyrdd hynny sy'n cael eu gwneud yn eithriadau.

Yn ôl i'r brig


Faint o ffyrdd yn Sir Ddinbych fydd yn cael eu heithrio ac felly'n galluogi terfyn cyflymder o 30mya?

Ar hyn o bryd mae gennym chwe ffordd y bwriedir eu gwneud yn eithriadau.

Yn ôl i'r brig


Pe na bai Cyngor Sir Ddinbych yn dilyn y meini prawf 20mya a osodwyd gan Lywodraeth Cymru a throi ffordd yn ôl i 30mya, a fyddai'r Cyngor yn atebol i her gyfreithiol pe bai damwain?

Ni all cynghorau lleol ddiystyru meini prawf yn gyfreithiol wrth bennu terfynau cyflymder ar ffyrdd lleol. Asesir pob terfyn cyflymder yn ddiduedd ar sail meini prawf cenedlaethol penodol.

Yn ôl i'r brig


A fydd yr arwyddion i gyd yn cael eu newid yn barod ar gyfer gweithredu’r terfynau cyflymder 20mya ym mis Medi?

Byddant, rydym wedi penodi contractwyr i wneud y gwaith arwyddion hwn yn barod ar gyfer 17 Medi 2023.

Yn ôl i'r brig


A fydd arwyddion ategu i atgoffa pobl eu bod nhw mewn ardal 20mya?

Na fydd - byddai arwyddion felly yn anghyfreithlon. Yn unol â Rheolau’r Ffordd Fawr, oni bai bod arwyddion i’r gwrthwyneb, mae presenoldeb goleuadau stryd yn dweud wrth ddefnyddwyr y ffyrdd bod y terfyn cyflymder rhagosodedig yn berthnasol, sef 20mya o 17 Medi 2023.

Yn ôl i'r brig


Mae twmpathau cyflymder wedi'u gosod ar hyd fy ffordd er mwyn arafu traffig, a fwriedir cael gwared ar y rhain pan gyflwynir 20mya?

Yn gyffredinol, mae twmpathau ffordd yn ffordd effeithiol iawn o leihau cyflymder cerbydau ac felly nid oes unrhyw gynlluniau i gael gwared arnynt oherwydd y terfyn 20 mya rhagosodedig. Fel arfer bydd twmpathau ffordd wedi'u cyflwyno oherwydd bod nifer o ddamweiniau traffig ffyrdd wedi digwydd lle'r oedd gyrru’n rhy gyflym yn ffactor. Serch hynny, byddwn yn monitro effeithiolrwydd y terfyn 20 mya rhagosodedig newydd i asesu ei effeithiolrwydd ar ffyrdd nad oes ganddynt fesurau arafu traffig.

Yn ôl i'r brig


Pwy sy'n talu am gyflwyno 20mya ar ffyrdd cyfyngedig yn Sir Ddinbych?

Bydd yr holl gostau sydd ynghlwm â gweithredu terfyn cyflymder 20mya ledled Cymru yn cael eu talu gan Lywodraeth Cymru drwy grant i gynghorau lleol.

Yn ôl i'r brig

Tudalennau cysylltiedig

Terfynau cyflymder 20mya