Terfynau cyflymder 20mya

Terfynau Cyflymder 20mya

20mya yng Nghymru

Ers 17 Medi 2023 mae terfyn cyflymder diofyn o 20mya yn weithredol ar bob ffordd yn ninasoedd, trefi a phentrefi Cymru sydd â goleuadau stryd.

Fe wnaeth Llywodraeth Cymru yn (gwefan allanol) y newid hwn am nifer o resymau gan gynnwys:

  • lleihau nifer y damweiniau a nifer yr anafiadau difrifol o ganlyniad i ddamweiniau (gana hefyd leihau’r effaith ar y GIG wrth drin pobl sydd wedi cael eu hanafu)
  • annog rhagor o bobl i gerdded a beicio yn ein cymunedau
  • helpu i wella ein hiechyd a llesiant
  • gwneud ein strydoedd yn fwy diogel
  • diogelu’r amgylchedd ar gyfer cenedlaethau’r dyfodol.

Yn ôl Sefydliad Iechyd y Byd, y ffordd fwyaf effeithiol o wella diogelwch cerddwyr yw gostwng cyflymder cerbydau. Mae’r dystiolaeth o ledled y byd yn glir iawn - mae lleihau terfynau cyflymder yn lleihau nifer y damweiniau ac yn achub bywydau. Yn y pellter mae’n cymryd i gar sy’n teithio 20mya stopio, mae car sy’n gwneud 30mya yn parhau i wneud 24mya. Mae hyn yn gwneud cryn wahaniaeth i’r gallu i osgoi gwrthdrawiad. Pan fydd cerddwr yn cael ei fwrw gan gerbyd sy’n gwneud tua 30mya, mae’n bum gwaith mwy tebygol o gael ei ladd na phan fydd cerbyd yn gwneud tua 20mya (gwefan allanol).1

Gwybodaeth i’r cyhoedd a Chwestiynau Cyffredin

Buddion

Mae Iechyd Cyhoeddus Cymru yn credu y gallai gostwng y terfyn cyflymder diofyn i 20mya arwain at fanteision iechyd sylweddol. Bydd 20mya yn lleihau’r risg o ddamweiniau, yn helpu pobl i deimlo’n fwy diogel ac yn gwella llesiant corfforol a meddyliol pobl. Yn ôl amcangyfrifon gan astudiaeth iechyd y cyhoedd ddiweddar2, gallai’r terfyn cyflymder diofyn o 20mya arwain at y canlynol:

  • 40% llai o wrthdrawiadau
  • achub 6 - 10 bywyd bob blwyddyn
  • osgoi anafiadau i 1,200 - 2,000 o bobl bob blwyddyn.

Byddai hyn yn arbed tua £92 miliwn drwy atal ddamweiniau yn y flwyddyn gyntaf.

Tystiolaeth

Mae hefyd dystiolaeth o ledled y byd yn dangos mai cyflymderau cerbydau yw un o’r prif resymau pam nad yw pobl yn cerdded neu’n beicio, nac yn caniatáu i’w plant gerdded neu feicio i’r ysgol. Bydd cyflymderau traffig is yn creu cymunedau gwell i fyw ynddyn nhw ac yn annog rhagor o gerdded a beicio. Bydd plant yn fwy diogel cyn gynted ag y maen nhw’n gadael eu cartref, pan fyddan nhw’n chwarae yn yr awyr agored neu’n cerdded i’r ysgol, a bydd pobl hŷn yn fwy tebygol o deimlo eu bod yn gallu teithio yn annibynnol ac yn ddiogel.

Mae gyrru’n arafach yn cynhyrchu llai o sŵn, yn lleihau faint o danwydd sy’n cael ei ddefnyddio, ac mae’n debygol y bydd allyriadau egsôst ac allyriadau eraill yn is hefyd. Dylai cyflymu i gyflymder is o 20mya, a gyrru ar gyflymder mwy cyson, yn golygu na fydd teiars a breciau’n treulio cymaint3, a gallai hyn hefyd arbed costau tanwydd (gwefan allanol)4.

Eithriadau

Fel arfer bydd y terfyn cyflymder ar ffyrdd cyfyngedig yn newid i 20mya.

Cydnabyddir, serch hynny, nad yw pob ffordd sydd â therfyn 30mya yn addas ar gyfer newid i 20mya. Gelwir y ffyrdd hynny'n eithriadau.

Yn seiliedig ar feini prawf Llywodraeth Cymru (gwefan allanol) ac ar ôl hynny, safbwyntiau ein Cynghorwyr Sir, rydym wedi nodi rhai ffyrdd a allai barhau â therfyn 30mya. Byddwn yn ymgynghori â chymunedau lleol am y ffyrdd hynny a allai barhau â therfyn 30mya.

Mae Llywodraeth Cymru wedi cyhoeddi map ar MapDataCymru (gwefan allanol) i ddangos y ffyrdd a fydd yn dal â therfyn 30mya, yn ogystal â chanllaw i ddefnyddwyr MapDataCymru (gwefan allanol).

Rydym wrthi’n cwblhau’r wybodaeth hon, fydd ar gael cyn bo hir ar wefan MapDataCymru.

Newyddion a'r wybodaeth ddiweddaraf

Dilynwch ni ar y cyfryngau cymdeithasol i gael yr wybodaeth ddiweddaraf am gyflwyno terfynau 20mya yn Sir Ddinbych.


Terfynau Cyflymder 20mya



Gwefannau cysylltiedig

Cyfeiriadau

  1. Davis, A. 2023 Essential Evidence 4 Scotland No.63 Impact speed and pedestrian fatality risk, Transport Research Institute (gwefan allanol)
  2. Jones, S., Brunt, H. 2017 Twenty miles per hour speed limits: a sustainable solution for public health problems in Wales, Journal of Epidemiology and Community Health, doi:10.1136/jech-2016-208859
  3. Williams, D., North, R. 2013. An evaluation of the estimated impacts on vehicle emissions of a 20mph speed restriction in central London
  4. NICE, 2017 Air pollution: Outdoor air quality and health, NICE Guideline (gwefan allanol). London: NICE