Rhaglen rhoi wyneb newydd ar y ffyrdd 2025 i 2026 (Cynlluniau a gaiff eu hariannu gan gyfalaf Cyngor Sir Ddinbych)
Caiff y cynlluniau yn y rhaglen hon ar gyfer 2025 i 2026 eu hariannu gan gyfalaf gan Gyngor Sir Ddinbych. Maent yn cynnwys gwaith ar draws y sir, a fydd yn cynnwys rhoi wyneb newydd ar y ffyrdd cerbydau a gwaith cysylltiedig (er enghraifft ysgubo a draenio). Gall y rhain newid yn dilyn asesiadau safle.
- Bodfari – Ffordd gefn Pistyll o Faes y Graig
- Bontuchel – Cyffordd Penyrhengoed i Bontuchel
- Bontuchel – Capel y Wern i gyffordd Ysceibion Bach
- Cefn Meiriadog – o gyffordd Cae Pwll i Rhewl
- Corwen - A5104 (cyffordd A494 i gyffordd Tan y Bidwal)
- Cwm – o gyffordd Bod Hammer i Bwlch
- Cyffylliog – Cyffylliog i Hiraethog
- Cyffylliog – Pennant i Gaer Weirglodd
- Dinbych - o oleuadau Townsend i gyffordd Lôn Pendref
- Y Green Dinbych – Capel Y Grîn Dinbych i Bont y Cambwll
- Dyserth – Heol Foel Uchaf,
- Hendrerwydd – Croesffordd Hendrerwydd i Blas Isaf
- Llandrillo – Pen y Geulan i gyffordd Branas Lodge
- Llandrillo – O’r pentref i ffin y sir
- Nantglyn – Cyffordd Blaenau i Waen y Mywion
- Prestatyn – Ffordd Penrhwylfa (o gyffordd Victoria Road West i groesffordd Ffordd Isa)
- Rhuddlan – Cylchfan KFC i gylchfan y Clwb Golff
- Y Rhyl – Ffordd Cefndy (Parc Gwyliau Marine i Ffordd Derwen)
- Y Rhyl – Stryd Elwy (cyffordd Stryd Cinmel i Ffordd Wellington)
- Y Rhyl – Ffordd Pendyffryn (Cyffordd Madryn Avenue i gyffordd Ffordd Dyserth)
- Rhuthun – Ffordd Cae Glas (y lôn o ffordd Cae Glas i Fferm Wern)
- Tremeirchion – B5429 Nant Gwilym i’r A541 cyffordd Bodfari
Gwaith wedi ei gwblhau
- Llangollen – A542 Bwlch yr Oernant
- Y Rhyl – Rhodfa’r Gorllewin B5118 (cyffordd The Range i Sydenham Avenue)