Canllawiau cynllunio ar asesiadau hyfywedd

Disgwylir i ddatblygwyr ddarparu neu gyfrannu tuag at fesurau lliniaru a darparu isadeiledd lle bo’r angen yn codi o ganlyniad i’w datblygiad arfaethedig. Dylai ymgeiswyr fod yn ymwybodol o’r gofynion rhwymedigaeth gynllunio tebygol cyn gynted â phosibl er mwyn sicrhau bod y gofynion hyn yn cael eu hadlewyrchu mewn unrhyw ragdybiaethau gwerth tir a chynlluniau safle.

Os yw ymgeiswyr o’r farn bod hyfywedd yn broblem, bydd angen iddynt gyflwyno arfarniad hyfywedd ‘llyfr agored’ i’r Cyngor yn unol â’r rhestr wirio yng Nghanllaw Cynllunio Atodol Rhwymedigaethau Cynllunio’r Cyngor. 

Bydd y Cyngor yn ceisio gwiriad annibynnol i adolygu’r wybodaeth hyfywedd a ddarperir, megis gan Wasanaethau Prisiwr Dosbarth. Bydd cost y dilysiad hwn yn cael ei ysgwyddo gan yr ymgeisydd.