Gwneud cais cynllunio

Gallwch geisio ar-lein drwy’r Porth Cynllunio.

Safonau gofod newydd ar gyfer tai fforddiadwy

Gweld y safonau gofod newydd ar gyfer tai fforddiadwy

Canllawiau ar asesiadau hyfywedd

Gweld y canllawiau ar asesiadau hyfywedd

Byddwn yn ymateb i geisiadau yn yr un iaith y ffurflen byddwch yn ei chwblhau. Os hoffech dderbyn gohebiaeth ar gyfer ceisiadau cynllunio yn Saesneg, cwblhewch ffurflen gais cynllunio Saesneg

Gwneud cais cynllunio (gwefan allanol)

Systemau Draenio Cynaliadwy

Mae Systemau Draenio Cynaliadwy yn orfodol ar gyfer pob datblygiad newydd sy’n cynnwys mwy nag un annedd, neu safle adeiladu sy’n fwy na 100 metr sgwâr. Mae’n rhaid ichi wneud cais i’r Corff Cymeradwyo Systemau Draenio Cynaliadwy ar gyfer datblygiadau fel hyn.

Dysgwch fwy am Systemau Draenio Cynaliadwy a sut i wneud cais i'w cymeradwyo.

Mae nodiadau canllaw ar gyfer pob cam o’r broses ar-lein, a gallwch arbed eich gwaith a symud i ffwrdd o’r cais ar unrhyw bryd. Unwaith yr ydych wedi cyflwyno cais ar-lein byddwch yn cael rhif cyfeirnod a byddwn ni yn derbyn e-bost yn rhoi gwybod inni am eich cais fel y gallwn ddechrau ei brosesu. 

Fel arall, gallwch lawrlwytho ffurflen gais o wefan Llywodraeth Cymru a'i dychwelyd atom. 

Ewch i wefan Llywodraeth Cymru i lawrlwytho ffurflenni argraffadwy all-lein (gwefan allanol)

Gwybodaeth i gefnogi eich cais

Bydd angen ichi gyflwyno gwybodaeth i gefnogi eich cais wrth ichi ymgeisio. Darllenwch y ddogfen rhestrau o ofynion dilysu (gwefan allanol) am fanylion llawn. 

Cofiwch, os na fyddwch yn darparu’r holl ddogfennau angenrheidiol efallai na ddyfernir caniatâd cynllunio ichi.

Faint mae cais cynllunio yn ei gostio?

Gweld ffioedd cynllunio, eithriadau a gostyngiadau

Sut ydw i’n talu?

Dylid cyflwyno’r ffi gyda’ch cais. Gellir ei dalu yn y dulliau canlynol:

  • Cerdyn credyd/debyd trwy ffonio 01824 706727
  • Drwy BACS (cysylltwch â ni am fanylion BACS ar 01824 706727, 9am tan 1pm)

Cynigion Datblygu Tai y tu allan i Ffiniau Datblygu’r Cynllun Datblygu Lleol (CDLl).

Ar hyn o bryd nid yw’r Cyngor yn medru dangos cyflenwad 5 mlynedd o dir ar gyfer tai fel sy’n ofynnol gan Lywodraeth Cymru. Mae hynny wedi arwain at nifer o geisiadau cynlluniau ac ymholiadau ar gyfer datblygiadau tybiannol ar safleoedd y tu allan i ffiniau aneddiadau fel y diffinnir yn y CDLL a fabwysiadwyd.

Gan hynny mae'r Cyngor wedi creu drafft o Nodyn Cyfarwyddyd I Ddatblygwyr a gymeradwywyd gan y Pwyllgor Cynllinio ar 11/11/2015.

Nodyn cyfarwyddyd i ddatblygwyr: Cynigion Datblygu Tai y tu allan i Ffiniau Datblygu'r CDLl

Pwrpas y Nodyn yw darparu canllaw i ddarpar ymgeiswyr ynglŷn â darparu tystiolaeth gynhwysfawr i ddangos fod y datblygiad arfaethedig yn gynaliadwy ac yn hyfyw a chyraeddadwy er mwyn gwneud cyfraniad dilys a chynnar i’r cyflenwad tir ar gyfer tai a gwaith adeiladu ar y tir.