Caniatâd cwrs dŵr cyffredin

Sianelau y mae dŵr yn llifo drwyddynt yw cyrsiau dŵr. Gall cwrs dŵr cyffredin fod yn afonydd a nentydd (ac eithrio prif afonydd) a phob ffos, draen, toriad, ceuffos, morglawdd, carthffosydd (ac eithrio carthffosydd cyhoeddus) a llwybrau, y mae dŵr yn llifo drwyddynt. Er mwyn gwneud gwaith ar gwrs dŵr cyffredin, bydd angen i chi wneud cais i ni am Ganiatâd Cwrs Dŵr Cyffredin. 

Os ydych am wneud gwaith mewn, dros, o dan neu gerllaw prif afon neu amddiffynfa rhag llifogydd (gan gynnwys amddiffynfa môr), bydd angen i chi wneud cais i Gyfoeth Naturiol Cymru (gwefan allanol) am ganiatâd.

Caniatâd Cwrs Dŵr Cyffredin

Er mwyn caniatáu i waith ddigwydd, gallwn roi caniatâd ar gyfer cynllun arfaethedig gan wirio nad yw'n cynyddu'r perygl o lifogydd nac yn effeithio negyddol ar yr amgylchedd. 

Gall gweithiau parhaol a dros dro sy'n effeithio ar gwrs dŵr fod angen caniatâd. Gallai gwaith dros dro olygu codi argae neu argae rhannol ar gwrs dŵr er mwyn caniatáu gwaith parhaol megis gosod pont. 

Faint mae'n ei gostio?

Y ffi ar gyfer Caniatâd Cwrs Dŵr Cyffredin yw £50 y strwythur. Gallwch dalu hwn trwy anfon siec yn daladwy i Gyngor Sir Ddinbych. 

Sut i wneud cais

Bydd angen i chi lenwi ffurflen gais Caniatâd Cwrs Dŵr Cyffredin y gellir ei dychwelyd i'r e-bost neu gyfeiriad post a roddwyd ar y ffurflen.

Ffurflen gais caniatâd draenio dŵr (PDF, 362KB)

Pa mor hir y mae'r caniatâd yn para?

Bydd eich caniatâd yn ddilys am dair blynedd oherwydd gall effeithiau'r cynllun newid ers i'r cais gael ei wneud yn gyntaf. 

Ar gyfer rhai gweithiau, efallai y rhoddir caniatâd amodol i chi i wneud y gwaith, er enghraifft, ar adeg benodol o'r flwyddyn, er mwyn lleihau'r risg o lifogydd a difrod ecolegol posibl.