Maes carafanau preswyl diawdurdod rhwng Llangollen a Threfor: Cwestiynau Cyffredin

Maes carafanau preswyl diawdurdod rhwng Llangollen a Threfor

Mae maes carafanau preswyl wedi'i sefydlu rhwng Llangollen a Threfor heb y caniatâd cynllunio gofynnol. I geisio unioni'r sefyllfa o ran y torri rheolau cynllunio honedig, mae'r Cyngor wedi cyhoeddi Rhybudd Gorfodi. Rydym yn parhau i dderbyn nifer uchel o ymholiadau ynghylch yr achos, felly rydym yn darparu diweddariadau ynghylch yr achos yn y fan yma.

Mae statws cyfredol yr achos fel a ganlyn:

Mae derbynyddion y Rhybudd Gorfodi ymarfer eu hawl i apelio yn erbyn gweithredoedd y Cyngor, ond gwrthodwyd eu hapêl. Gellir gweld dogfennau'r apêl yn gyhoeddus ar planningcasework.service.gov.wales/cy (gwefan allanol) yn defnyddio'r cyfeirnod achos CAS-01845-C2W5Y6.

Penderfynodd arolygiaeth gynllunio Cymru, Penderfyniadau Cynllunio ac Amgylchedd Cymru, wrthod yr apêl ar 31 Mawrth 2023. Daeth gofynion y Rhybudd i rym ar y un diwrnod, a mae derbynyddion y Rhybudd Gorfodi wedi at 1 Tachwedd 2023 i gydymffurfio â nhw.

Bydd y Cyngor yn monitro’r mater ymhellach ar ôl y dyddiad hwn. Os yw’r monitro’n dangos bod derbynyddion y Rhybudd Gorfodi wedi methu â chydymffurfio, gallai’r Cyngor geisio camau cosbi eraill. Efallai y bydd achos cyfreithiol os yw hynny o fudd i’r cyhoedd, ac os yw cyngor cyfreithiol yn awgrymu bod siawns resymol o lwyddiant.

Diweddarwyd y statws hwn ar 3 Ebrill 2023 ac mae’n cael ei adolygu’n rheolaidd. Darperir diweddariad statws pellach maes o law.

Ceir rhagor o wybodaeth am sut mae’r Cyngor yn trin achosion honedig o dorri rheolau cynllunio yn ein siarter cydymffurfio â rheolau cynllunio.


Pwy sy’n gyfrifol am y gweithgaredd diawdurdod?

Mae’r safle wedi’i brynu gan deulu sydd bellach yn byw ar y safle. Hyd y gŵyr y Cyngor, nid yw’r teulu o’r gymuned Sipsiwn/Teithwyr.

Pa mor hir fydd hi’n ei gymryd i atal meddiannaeth y safle?

Mae’r Rhybudd Gorfodi yn ei gwneud yn ofynnol i feddianwyr y safle adael o fewn 7 mis. Bydd y cyfnod yn dechrau pan fydd Penderfyniadau Cynllunio ac Amgylchedd Cymru yn cyhoeddi penderfyniad yr apêl, os bydd y Rhybudd yn cael ei gadarnhau yn llawn.

Faint fydd yn ei gostio er mwyn dod â’r broses hon i’w chasgliad?

Gallai costau’r broses hon amrywio’n sylweddol, a bydd yn dibynnu ar ganlyniad yr apêl.

Sut gallwch chi atal pobl rhag ailfeddiannu’r safle hwn, neu dir preifat arall yn y cyffiniau?

Bydd y Rhybudd Gorfodi mae’r Cyngor wedi’i gyhoeddi yn aros ar waith am gyfnod amhenodol, hyd yn oed os cydymffurfir ag ef. Mae hyn yn golygu na ddylai fod angen i ni gyhoeddi rhybudd newydd os caiff y safle ei ailfeddiannu, cyn belled â bod y gweithgaredd wedi’i gwmpasu gan y disgrifiad o’r torri rheolau ar y rhybudd presennol. Ni fyddai hyn yn berthnasol i feddiannu tir cyfagos na thir arall yn y cyffiniau.

Pa bwerau cyfreithiol sydd gan y Cyngor er mwyn datrys y sefyllfa?

Gall y Cyngor gymryd camau cyfreithiol pellach os na chydymffurfir â Rhybudd Gorfodi yn ystod yr amserlen ofynnol. Mae’r cyfnod cydymffurfio hwn yn 7 mis o’r dyddiad y mae’r arolygydd yn cyhoeddi penderfyniad yr apêl - os yw’r Rhybudd yn cael ei gadarnhau. Mae siawns y bydd yr arolygydd yn newid y cyfnod ar gyfer cydymffurfio os yw’n ystyried bod y cyfnod presennol yn afresymol.

Bydd unrhyw gamau a gymerir gan y Cyngor yn cydymffurfio â deddfwriaeth bresennol, fel rheoliadau Hawliau Dynol.

Ydych chi’n cael sgyrsiau gyda pherchennog y tir a meddianwyr presennol y safle o ran eu bwriad a/neu eu lles?

Ydym. Mae'r Cyngor mewn cyswllt â'r preswylwyr, sy'n byw ar y safle yn barod.

Sut ydych chi’n gweithio gyda chynrychiolwyr etholedig i sicrhau bod gan y gymuned lais yn y broses gwneud penderfyniadau?

Mae’r Cyngor yn gweithio gyda’r Aelod Seneddol, Aelod o’r Senedd a’r Aelod Lleol, sy’n cyfleu pryderon y gymuned leol.

Pwy o fewn y Cyngor sy’n penderfynu beth yw’r peth gorau i’w wneud?

Mae’r cynllun dirprwyo a fabwysiadwyd yn egluro’r broses gwneud penderfyniadau.

Beth yw effaith amgylcheddol meddiannu’r safle hwn?

Mae’r Cyngor yn pryderu am effaith y safle ar lefelau ffosffad yn yr Afon Dyfrdwy, ac mae ei leoliad yn methu â lleihau’r angen i deithio mewn car ar gyfer siwrneiau lleol. Dyma ddau o’r rhesymau pam bod y Cyngor wedi cymryd camau gweithredu ac wedi cyhoeddi’r Rhybudd Gorfodi.

Beth yw’r goblygiadau o ran diogelwch ar y ffyrdd o feddiannu’r safle hwn?

Mae’r dull mynediad o’r datblygiad diawdurdod i’r briffordd gyfagos eisoes yn bodoli. Ymgynghorwyd â’r Awdurdod Priffyrdd cyn rhoi’r Rhybudd Gorfodi, ac ni chodwyd unrhyw bryderon.

Dylid rhoi gwybod i Heddlu Gogledd Cymru am unrhyw ddigwyddiadau traffig unigol.

A allai’r safle hwn gael caniatâd cynllunio i weithredu?

Ni fydd y Cyngor yn rhoi caniatâd cynllunio ar gyfer datblygu’r safle yn ei ffurf bresennol. Efallai bydd y datblygiad yn aros os yw’r apêl barhaus yn llwyddiannus.

Lle gallaf i gael rhagor o wybodaeth am y broses cydymffurfiaeth cynllunio?

Mae’r Cyngor wedi mabwysiadu siarter sy’n egluro sut caiff achosion honedig o dorri rheolaeth gynllunio eu trin.

Siarter Cydymffurfio â Rheolau Cynllunio