Enwi a rhifo strydoedd: Gofynion a chanllawiau

Rydym yn gyfrifol am enwi’r holl ffyrdd ynghyd ag enwi a rhifo’r holl eiddo (preswyl a masnachol) o fewn Sir Ddinbych.

Defnyddir enwau strydoedd a chyfeiriadau eiddo gan;

  • Asiantaethau credyd
  • Cynghorau
  • Gwasanaethau Brys
  • Y Post Brenhinol
  • Cyflenwyr systemau llywio â lloeren
  • Ymgymerwyr statudol
  • Cwmnïau preifat eraill

Ni ddylai unigolion ddyrannu rhifau tai nac enwau adeiladau eu hunain.

Os nad yw eiddo wedi’i gofrestru drwy'r broses enwi a rhifo tai ni fydd yn ymddangos ar brif gronfa ddata cyfeiriadau a bydd perchennog / preswylydd yr eiddo yn wynebu problemau o ran derbyn post, nwyddau a gwasanaethau gan ystod o ffynonellau (e.e. cysylltu gwasanaethau, gwneud cais am gerdyn credyd, neu brynu nwyddau drwy'r post).

Canfod sut i gofrestru enw stryd neu enw / rhif eiddo.

Arddangos rhif neu enw eich eiddo

Pan fyddwn yn dyrannu eich cyfeiriad newydd mae’n ofyniad cyfreithiol i chi arddangos y rhif (neu'r enw) fel y gellir ei weld o'r stryd. Os na wnewch chi hyn, bydd sefydliadau’n ei chael yn anodd dod o hyd i’ch eiddo.

Rhestr Cyfeiriadau Cenedlaethol

Mae pob cyfeiriad ac enw ffordd yr ydym yn eu llunio yn cael eu hychwanegu at ein cronfa ddata o gyfeiriadau lleol, sy’n diweddaru cronfa ddata Cyfeiriadau Cenedlaethol i gynorthwyo’r gwasanaeth tân, yr heddlu ac adrannau eraill y llywodraeth i weithio gyda’i gilydd i ddarparu gwasanaethau effeithlon.