Rhagfyr 2025
Hyfforddiant Grwp 6: Trais yn erbyn menywod, cam-drin domestig a thrais rhywiol (mae'r grŵp hwn yn cynnwys pobl mewn rolau arweiniol)
4 Rhagfyr: 1pm i 3pm
Gwyddoch am y disgwyliad statudol i weithlu'r sector gyhoeddus yng Nghymru i gwblhau'r hyfforddiant i godi ymwybyddiaeth yn y maes VAWDASV (trais yn erbyn menywod, cam-drin domestig a thrais rhywiol).
Trwy fynychu’r hyfforddiant yma, byddwch yn datblygu eich dealltwriaeth o’r maes VAWDASV (trais yn erbyn menywod, camdrin domestig a thrais rhywiol, gan ystyried):
- natur ac effaith VAWDASV yng Nghymru
- pwysigrwydd arwain yn strategol
- arfer gorau a strategaethau effeithiol er mwyn creu amgylchedd ddiogel a chefnogol
Os hoffech archebu lle, chwiliwch am y cwrs yn yr adran Ddysgu ar Hunan Wasanaeth iTrent neu cysylltwch â hrdirect@denbighshire.gov.uk.
Gofyn a gweithredu - grwp 2
8 Rhagfyr: 9:30am i 12:30pm
Cwrs hanner diwrnod i; cynyddu hyder a dealltwriaeth o nodi'n gynnar, gwneud ymholiad wedi'i dargedu a gwybod llwybrau atgyfeirio. Mae hwn yn gwrs gorfodol i unrhyw un sy'n gweithio mewn rôl sy'n wynebu'r ffrynt.
Nodau ac amcanion:
- adnabod arwyddion a symptomau trais yn erbyn menywod, cam-drin domestig a thrais rhywiol
- deall pwrpas a dangos y gallu i ymgymryd ag ymholiad wedi'i dargedu
- dangos gwybodaeth am ddiogelu data a'r ddyletswydd cyfrinachedd
- deall diben adnabod risg mewn perthynas â rhai mathau o drais yn erbyn menywod, cam-drin domestig a thrais rhywiol
- gallu gweithredu'r llwybr gofal ymholiadau wedi'i dargedu
Os hoffech archebu lle, chwiliwch am y cwrs yn yr adran Ddysgu ar Hunan Wasanaeth iTrent neu cysylltwch â hrdirect@denbighshire.gov.uk.