Cyfnod Prawf

Bydd gweithwyr newydd Cyngor Sir Ddinbych yn awtomatig yn gweithio cyfnod prawf o chwe mis.

Bydd eich rheolwr yn eich asesu ar ôl tri mis a phum mis yn y swydd, a bydd angen i chi fod wedi cwblhau'r modiwlau E-ddysgu gofynnol fel y nodir yn Siart Llif Ymsefydlu Corfforaethol (isod).

Ar ddiwedd y cyfnod prawf o chwe mis byddwch yn derbyn hysbysiad ffurfiol eich bod wedi cwblhau’r cyfnod prawf yn llwyddiannus. Bydd arfarniad perfformiad gyda’ch rheolwr llinell yn cael ei gwblhau yn fuan wedi cwblhau’r cyfnod prawf.

Dogfennau cysylltiedig