Amser i ffwrdd ar gyfer datblygu

Mynychu Cyrsiau

Mae’n bosibl y caniateir amser i ffwrdd gyda thâl i fynychu digwyddiadau a gynhelir yn ystod oriau gwaith arferol e.e. cyfweliadau cyn dechrau cwrs, mynychu cwrs, astudio ar gyfer arholiad, arholiadau, mynychu seremonïau graddio a seremonïau gwobrwyo. Os yw mynychu digwyddiad yn golygu amser ychwanegol i’r diwrnod safonol, e.e. at ddibenion teithio, gellir hawlio’r amser gwirioneddol hyd at chafswm o 12 awr.

Os oes yn rhaid i weithiwr fynychu cyfarfodydd / cynadleddau / seminarau sy'n golygu dechrau'n gynnar a / neu orffen yn hwyr, a allai fod yn fwy na'r 12 awr diwrnod gwaith, gallant hawlio mwy na 12 awr yr amod bod y rheolwr atebol wedi cytuno â hyn cyn i’r amser gael ei gronni. At ddibenion teithio, bydd y rheolau arferol o ran hawlio amser teithio yn berthnasol, h.y. amser y daith fyrraf sef naill ai o’r lleoliad i’r swyddfa neu o’r lleoliad i gartref y gweithiwr.

Os bydd y cwrs yn dechrau hanner ffordd drwy'r diwrnod gwaith ac yn parhau i mewn i'r nos, neu os yw’n cael ei gynnal gyda'r nos yn unig, yn dibynnu ar ofynion yr adran, gellir cytuno rhwng y rheolwr a’r gweithiwr i'r gweithiwr:

  • i weithio yn y bore a hawlio TOIL ar gyfer yr oriau ychwanegol
  • i beidio â gweithio yn y bore a mynychu’r cwrs yn unig a hawlio diwrnod gwaith arferol o 7.24 awr (7.40 awr degol)

Pan ganiateir absenoldeb gyda thâl, bydd mynychu digwyddiad yn cael ei ystyried fel ymgymryd â dyletswydd. Mae hyn hefyd yn berthnasol i weithwyr rhan-amser a'r rheiny sy’n gweithio sifftiau sy'n mynychu digwyddiadau dysgu y tu allan i'w oriau gwaith arferol. Byddan nhw’n cronni TOIL am yr amser yma.

Mae'n rhaid rhoi gwybod am absenoldeb oherwydd salwch ac os oes angen, ei ardystio. Os fyddwch yn absennol o ddigwyddiad heb awdurdod bydd yr absenoldeb yn cael ei drin fel absenoldeb o’ch dyletswyddau.

Nid oes unrhyw lwfans awtomatig o ran tâl neu amser i ffwrdd i fynychu cyrsiau neu ddigwyddiadau dysgu eraill ar benwythnosau, oni bai bod wythnos waith y gweithiwr yn cynnwys gweithio ddydd Sadwrn neu ddydd Sul. Bydd eithriadau i hyn yn cael eu penderfynu mewn trafodaeth rhwng y rheolwr atebol a’r Pennaeth Gwasanaeth priodol.

Amser Astudio

Bydd unrhyw amser a ragnodwyd i ffwrdd o'r gwaith ar gyfer astudio, creu portffolio ac yn y blaen, a fynnir gan gyrff dyfarnu fel elfen hanfodol o gyrsiau yn amodol ar gyflwyno prawf ysgrifenedig o'r gofynion i’r rheolwr atebol.

Bydd amser i ffwrdd o’r gwaith ar gyfer astudio a chreu portffolio ac ati yn cael ei ganiatáu ar sail 50/50 h.y. 50% o amser y gweithiwr a 50% o amser y Cyngor. Bydd hyn hefyd yn amodol ar ddarparu tystiolaeth ysgrifenedig o'r gofynion i’r rheolwr atebol.

Ar gyfer cyrsiau coleg rhoddir 3 diwrnod gwaith arferol y flwyddyn academaidd fel y barno’r adran yn ddoeth i astudio ar gyfer arholiad.

Ar gyfer dysgu o bell, sy’n cynnwys elfennau preswyl yn ystod yr wythnos waith, rhoddir hyd at 3 diwrnod gwaith arferol bob blwyddyn academaidd fel y barno’r adran yn ddoeth.

Ar gyfer NVQs yn y gwaith heb amser rhagnodedig i ffwrdd o’r gwaith ar gyfer astudio a chreu portffolio, bydd gan y gweithiwr hawl i’r canlynol:

  • NVQs lefel 1, 2 a 3 - 1 diwrnod
  • NVQs lefel 4 a 5 - 2 diwrnod

Bydd yr amser yma yn ychwanegol at unrhyw amser sydd ei angen i fynychu digwyddiadau sy’n mynd i’r afael ag anghenion hyfforddi ac asesu.

Ni chaniateir amser i ffwrdd gyda thâl i ail-sefyll arholiadau.

Amser i ffwrdd ar gyfer gwersi Cymraeg

Mae’r Cyngor yn cefnogi ac yn annog gweithwyr i ddysgu Cymraeg ac o ganlyniad yn caniatáu amser i ffwrdd i fynychu gwersi Cymraeg yn ystod y diwrnod gwaith. Pan fo gallu’r Gymraeg yn un o ofynion swydd a phan nad yw’r deiliad yn gallu mynychu gwersi Cymraeg yn ystod y diwrnod gwaith, bydd y Cyngor yn darparu cyllid i’r gweithiwr fynychu dosbarthiadau gyda’r nos.

Ni fydd gweithwyr cael eu had-dalu am yr amser a dreulir yn mynychu dosbarthiadau Cymraeg gyda’r nos.

Mae’n gyfrifoldeb ar reolwyr i fonitro cynnydd a gwelliant gweithwyr sy’n mynychu dosbarthiadau Cymraeg lle mae’r Gymraeg yn hanfodol i’w swyddi.

Dogfennau cysylltiedig