Gwyliau Blynyddol

Yr Hawl i Wyliau Blynyddol

Mae  gwyliau blynyddol yn cael ei gyfrifo ar ddechrau pob blwyddyn wyliau a phob tro y ceir newid mewn trefniadau gweithio neu oriau gwaith.

Bydd holl weithwyr yn derbyn eu hawl mewn oriau a munudau. Mae’ch rheolwr atebol yn gyfrifol am sicrhau bod eich hawl i wyliau blynyddol yn gywir.

Canllaw: gwyliau blynyddol i weithwyr a rheolwyr (PDF, 748KB)

Fel un o weithwyr y Cyngor, yr isafswm o ran gwyliau â thâl sy’n ddyledus i chi yw 23 diwrnod (170 awr a 12 munud pro rata i'ch oriau cyfartalog). Bydd hawl i wyliau pellach gael ei ganiatáu fel y nodir yn y tabl isod. Mae’r hawl a ddangosir yn seiliedig ar gyfraddau llawn amser. Yn berthnasol i flwyddyn gwyliau nesaf, ar ôl 1 Ebrill 2023.

Yr Hawl i Wyliau Blynyddol
HawlDiwrnodauOriau
Sylfaenol 23 170 awr 12 munud
Gwyliau Statudol Ychwanegol +3 +22 awr 12 munud
Gwyliau ychwanegol ar ôl 5 mlynedd o wasanaeth di-dor +3 +22 awr 12 munud
Gwyliau ychwanegol ar ôl 10 mlynedd o wasanaeth di-dor +1 +7 awr 24 munud
Gwyliau ychwanegol ar ôl 15 mlynedd o wasanaeth di-dor +1 +7 awr 24 munud
Gwyliau ychwanegol ar ôl 20 mlynedd o wasanaeth di-dor +1 +7 awr 24 munud
Cyfanswm nifer y gwyliau blynyddol posibl 32 236 awr 48 munud

Os oes gennych chi gontract llawn amser, mae’r nifer mwyaf o wyliau blynyddol y gallwch chi eu cymryd, yn dibynnu ar hyd eich gwasanaeth, wedi ei nodi isod. Bydd Adnoddau Dynol yn cyfrifo'r union hawl yn ôl hyd eich gwasanaeth di-dor yn y llywodraeth leol.

Yr hawliau cyfwerth ag amser llawn mwyaf
Hyd gwasanaethDiwrnodauOriau
Llai na 4 blynedd o wasanaeth di-dor 26 192 awr 24 munud
Rhwng 4 a 5 mlynedd o wasanaeth di-dor 26 i 28 Rhwng 192 awr 24 munud a 207 awr 12 munud
5 mlynedd o wasanaeth di-dor 29 214 awr 36 munud
10 mlynedd o wasanaeth di-dor 30 222 awr
15 mlynedd o wasanaeth di-dor 31 229 awr 24 munud
20 mlynedd o wasanaeth di-dor 32 236 awr 48 munud

Cario Gwyliau Drosodd

Mae modd i chi gario gwerth dau wythnos o oriau drosodd o un flwyddyn wyliau i’r llall, i’w defnyddio yn ystod y flwyddyn ganlynol, yn amodol ar yr awdurdodiad arferol ar ôl gwneud cais am hynny.

Ni fyddwch yn derbyn tâl am unrhyw ddiwrnod o wyliau sy’n weddill ar ddiwedd y flwyddyn wyliau.

Gwyliau Statudol Ychwanegol

Fel y nodir yn y tabl uchod mae gennych chi hawl i 3 diwrnod ychwanegol o wyliau statudol (22 awr 12 munud pro rata). Pan fo’n briodol bydd y Cyngor yn penderfynu, ar ôl ymgynghori gyda’r undebau llafur cydnabyddedig, pryd y gellir cymryd y diwrnodau ychwanegol hyn.

At ddibenion cyfrifo, dylid cyfuno'r hawl i wyliau blynyddol a’r hawl i wyliau statudol.

Blwyddyn Wyliau

Mae blwyddyn wyliau pob gweithiwr yn dechrau ar ddiwrnod cyntaf mis eu geni.

Mae hawl flynyddol gweithwyr sy’n gadael neu’n ymuno â’r Cyngor yn cael ei chyfrifo yn unol â hyd eu gwasanaeth yn ystod y flwyddyn wyliau.

Gŵyl y Banc / Gwyliau Cyhoeddus

Mae gennych chi hawl i ddiwrnod o wyliau gyda thâl ar gyfer pob diwrnod o wyliau statudol, cyffredinol a chyhoeddus. Os ydych chi’n gweithio dan gontract rhan-amser bydd eich hawl yn cael ei chyfrifo i gyd-fynd â’ch oriau gwaith.

Prynu Gwyliau Ychwanegol

Gellir ‘prynu’ hyd at 40 o ddiwrnodau gwyliau ychwanegol (sef gwerth 8 wythnos o oriau). Mae’n rhaid gwneud cais am ddiwrnodau ychwanegol ymlaen llaw ac mae’n rhaid i’r rheolwr atebol gymeradwyo’r cais.

Gwneud Cais am Wyliau Blynyddol

Mae’n rhaid i bawb wneud cais am wyliau blynyddol ymlaen llaw, gan ddefnyddio nifer y diwrnodau gwyliau yr hoffech chi eu cael fel cyfnod rhybudd (h.y. os oes arnoch chi eisiau deuddydd o wyliau byddai’n rhaid i chi roi deuddydd o rybudd). Fodd bynnag dylid rhoi cymaint o rybudd â phosibl a mwy o rybudd os oes arnoch chi eisiau cymryd cyfnod hirach o wyliau.

Dylai pob gweithiwr geisio rhoi cymaint o rybudd â phosibl wrth wneud cais am wyliau blynyddol.

Bydd rheolwyr yn ceisio cymeradwyo pob cais am wyliau blynyddol ond mae’n bosibl y bydd rhai ceisiadau yn cael eu gwrthod os oes rhesymau busnes da dros wneud hynny. Bydd y rheolwr yn esbonio’r rhesymau hyn yn ysgrifenedig i’r gweithiwr o fewn 5 niwrnod gwaith (gall hynny fod ar ffurf e-bost).

VisionTime a chardiau gwyliau

VisionTime

Ar ôl derbyn caniatâd i gymryd diwrnod neu gyfnod o wyliau bydd yn rhaid i chi gofnodi hynny ar system VisionTime neu ar gerdyn gwyliau (dim ond gweithwyr heb fynediad i VisionTime ddylai ddefnyddio cardiau gwyliau).

Dylai pob gweithiwr sy’n defnyddio VisionTime archebu gwyliau blynyddol ymlaen llaw drwy’r system honno. Bydd rheolwyr wedyn yn defnyddio’r system i awdurdodi neu wrthod gwyliau blynyddol.

Y weithdrefn - Oriau Hyblyg (Vison Time) (PDF, 290KB)

Cardiau gwyliau

Bydd yn rhaid i weithwyr nad ydyn nhw’n gallu defnyddio VisionTime ddefnyddio cardiau gwyliau i gofnodi eu gwyliau blynyddol. Bydd rheolwyr yn cadarnhau gwyliau blynyddol ar ddechrau pob blwyddyn wyliau ac yn llofnodi pob cais.