Dynion a'r Menopos

Services and information

Wrth i ddynion heneiddio, mae gostyngiad naturiol yng nghynhyrchiad yr hormon testosteron (androgen) yn y corff, sy’n gyfrifol am reoleiddio nodweddion rhyw mewn dynion sydd wedi’u pennu’n wrywod adeg eu geni.

Dynion a'r Menopos

Wrth i ddynion heneiddio, mae gostyngiad naturiol yng nghynhyrchiad yr hormon testosteron (gwefan allanol) (androgen) yn y corff, sy’n gyfrifol am reoleiddio nodweddion rhyw mewn dynion sydd wedi’u pennu’n wrywod adeg eu geni. Yn ddiweddarach mewn bywyd, mae testosteron yn allweddol i les corfforol a meddyliol dyn. Gall gostyngiad mewn testosteron achosi’r hyn a elwir yn aml yn hypogonadedd (gwefan allanol) ("menopos y dynion" neu "testosteron isel oherwydd oedran"). Mae’r gostyngiad mewn testosteron mewn dynion fel arfer yn digwydd o gwmpas yr un adeg â’r menopos mewn menywod (gwefan allanol): ddiwedd eu 40au neu ddechrau eu 50au.

Symptomau Menopos Dynion

Yn wahanol i’r menopos mewn menywod, lle bo menywod yn methu ofylu, nid yw menopos i ddynion yn amharu ar gynhyrchu sberm. Ond mae'n datblygu'n arafach, gyda symptomau ac arwyddion sy'n fwy cynnil. Mae hyn yn arwain at:

  • Anniddigrwydd a hwyliau ansefydlog
  • Colli libido neu ysfa am ryw
  • Colli mas y cyhyrau a gwendid
  • Diffyg egni neu flinder
  • Llai o dyfiant gwallt
  • Problemau canolbwyntio a / neu gof byr dymor
  • Llai o ddwysedd esgyrn

Bydd rhai dynion â’r cyflwr hefyd yn profi symptomau sy’n debyg i fenopos y menywod fel pyliau o wres a chwysu. Hefyd, bydd rhai dynion â lefelau testosteron isel yn arddangos dim arwyddion o hynny.

Triniaeth

Y prif ddull o reoli symptomau menopos dynion yw therapi amnewid testosteron (TRT). Fel arfer bydd meddyg gofal sylfaenol, wrolegydd neu endocrinolegydd yn argymell hyn. Mae tystiolaeth yn dangos bod therapi amnewid yn gwella libido, cof, mas y cyhyrau a chryfder esgyrn.

Wedi dweud hynny, gall TRT achosi anffrwythlondeb ac arwain at ystod o sgil-effeithiau fel ceulad gwaed. Dyma pam ei bod yn bwysig derbyn therapi amnewid dan ofal gweithiwr meddygol proffesiynol ac arbenigol.

Mae modd derbyn TRT mewn sawl dull gwahanol:

  • Ar y croen, gan ddefnyddio gel, eli neu patsys.
  • Pigiad o ddognau sy’n para’n fyr dymor a hirdymor.
  • Meddyginiaeth ddyddiol, fel Kyzatrex, Jatenzo, a Tlando (testosteron undecanoate)
  • Gan ddefnyddio mewnanadlydd trwynol sawl gwaith y dydd neu batsh y gellir ei roi uwchben y blaenddannedd yn y geg.
  • Mewnosod pelenni o hyd at dri neu chwe mis o destosteron yn y pen-ôl neu’r cluniau.

Drwy gydol y driniaeth, bydd eich cynnydd yn cael ei fonitro’n rheolaidd. Mae angen apwyntiadau dilynol bob chwech i 12 mis.