Y Menopos ac Iechyd Meddwl

Services and information

Gall newidiadau yn eich hormonau yn ystod y menopos effeithio ar eich iechyd meddwl a’ch iechyd corfforol. Cyngor, gwasanaethau a chymorth, gan gynnwys beth i’w wneud os ydych chi angen cymorth ar unwaith.

Menopos ac Iechyd Meddwl

Efallai y byddwch yn profi teimladau o orbryder, straen neu iselder hyd yn oed. Gall symptomau'r menopos gynnwys:

  • Gwylltineb ac anniddigrwydd
  • Gorbryder
  • Anghofrwydd
  • Colli hunan-barch
  • Colli hyder
  • Hwyliau isel a theimladau o dristwch neu iselder
  • Diffyg canolbwyntio - yn aml yn cael ei ddisgrifio fel 'meddwl pŵl' a / neu golli geiriau

Bydd sawl menyw sy'n profi'r menopos neu'r perimenopos yn profi problemau cysgu (gwefan allanol). Gall diffyg cwsg a blinder wneud eich symptomau'n waeth, gan gynnwys anniddigrwydd, gallu i ganolbwyntio neu orbryder.

Gallai mynd i'r afael â phroblemau cwsg eich cynorthwyo i reoli rhai symptomau iechyd meddwl y gallwch eu profi oherwydd y menopos.

Mae nifer o ddewisiadau gwahanol i’ch cynorthwyo gyda’r profiadau hyn a gwella eich iechyd meddwl a lles yn ystod y menopos.

Mae rhai menywod wedi derbyn cyffur gwrth-iselder i gynorthwyo gyda symptomau sy’n gysylltiedig ag iechyd meddwl yn ystod y menopos, ond os nad ydych wedi derbyn diagnosis o iselder mae dewisiadau triniaeth eraill sydd fwy priodol.

Mae’n bwysig sylweddoli bod symptomau meddyliol y menopos yr un mor real â’r rhai corfforol, ac ni ddylech aros i geisio cymorth os ydych chi’n cael trafferthion. Siaradwch â’ch Meddygfa leol a gallant roi’r gefnogaeth a’r cymorth cywir i chi.

Dewisiadau triniaeth

Mae triniaethau amrywiol y gallech eu hystyried i leddfu rhai o effeithiau seicolegol y menopos. Mae pawb yn wahanol felly mae’n rhaid i chi ddewis yr hyn sy’n iawn i chi. Gall y triniaethau gynnwys:

Gwefannau cysylltiedig

Y menopos ac ystyried hunanladdiad

Dengys data bod menywod sy’n profi’r menopos yn profi problemau iechyd meddwl, gan gynnwys ystyried hunanladdiad, ond mae gormod ohonynt yn aros yn dawel. Gall ystyried hunanladdiad fod yn arwydd arall nad yw popeth yn iawn, a gall hyn fod yn ddychrynllyd a dryslyd. Efallai na fyddwch yn deall pam eich bod yn ystyried hyn ac yn teimlo nad oes gennych unrhyw rym i’w atal. Gallant amrywio o syniadau diflanedig i fod yn gyson ac efallai fod gennych gynllun yr ydych wedi’i gynllunio’n ofalus er mwyn rhoi terfyn i’ch bywyd.

Os ydych chi wedi cyrraedd y pwynt hwnnw a’ch bod ar y dibyn, ond nad ydych yn teimlo’n gyfforddus yn siarad â ffrind agos neu aelod o’ch teulu, ffoniwch rywun fel y Samariaid (ffoniwch 116 123) a siarad am y peth. Byddant yn eich cynorthwyo i ddod drwy’r cyfnod anodd a gwneud mwy o synnwyr o’ch sefyllfa bresennol a’ch cyfeirio at leoliadau eraill i gael cymorth.

Er y gall hyn eich dychryn a’ch bod yn teimlo nad oes ffordd arall o waredu eich trallod, cofiwch mai ennyd mewn amser yw hyn a bydd cryfder y teimladau hynny yn pasio.

Peidiwch â chanolbwyntio gormod ar yr hyn sy’n achosi eich hwyliau isel neu orbryder - "ai fy hormonau ydyw neu ai dyma fy mywyd yn awr" - fel arfer nid oes ateb syml i hynny.

Beth sy’n bwysig yw chi, sut yr ydych yn teimlo a beth i’w wneud am hynny. Bydd cymryd camau i ofalu am eich meddwl a’ch corff yn eich cynorthwyo i deimlo’n well, beth bynnag fo’r achos.

Ffyrdd o helpu

Yn gyntaf, rhowch y cyfle gorau i’ch corff deimlo’n well drwy hybu rhai agweddau allweddol o iechyd y menopos.

Rhowch hwb i'ch:

Hormonau

Os ydych chi’n dangos arwyddion a symptomau o’r perimenopos neu’r menopos (rhagor o wybodaeth yma), ystyriwch gymryd HRT.

Os ydych chi eisoes yn cymryd HRT, dylech siarad â’ch gweithiwr gofal iechyd proffesiynol os ydych yn credu bod angen dos uwch arnoch neu fath gwahanol os ydych chi’n credu nad yw’n cael yr un effaith ag yr oedd yn flaenorol.

Gall cyflenwad cyson o oestrogen - a thestosteron hefyd yn aml - yn eich gwaed wella eich hwyliau isel, gorbryder a sawl symptom arall (a’ch diogelu rhag clefydau yn y dyfodol).

Maeth

Er bod temtasiwn yn gallu eich annog i fwyta eich teimladau tra’n gwylio eich hoff raglenni yn ystod cyfnod clo, mae angen i chi fod yn garedig i’ch corff a chofio eich bod yn bwydo eich ymennydd hefyd. Mae perthynas agos iawn rhwng yr hyn sy’n digwydd yn eich perfedd a sut mae eich ymennydd yn gweithio.

Bydd diet gyda digonedd o lysiau, heb lawer o siwgr, halen a bwydydd wedi’u prosesu’n ormodol, ond yn llawn calsiwm, fitamin D a chynfiotigau a phrofiotigau yn cynorthwyo eich perfedd a’ch iechyd cyffredinol, ond hefyd gall wella eich lefelau egni a’ch hwyliau hefyd.

Gorffwys

Un o’r pethau gorau y gallech ei wneud ar gyfer eich meddwl a’ch corff yw cysgu. Ceisiwch gael 7-8 awr bob nos, gydag arferion cyson wrth fynd i’r gwely a chodi. Dyma ragor o wybodaeth o ran pam fod hyn yn bwysig a’n hawgrymiadau o ran cysgu’n well.

Mae gofalu am yr agweddau hyn o’ch iechyd corfforol yn hynod bwysig. Nawr, gadewch i ni roi mwy o ystyriaeth i’ch iechyd meddwl.

Pethau i'w cofio os nad ydych chi'n iawn

Mae sut yr ydych yn teimlo yn normal

Efallai eich bod yn teimlo bod pethau’n anodd ac nad ydych yn gallu ymdopi ar hyn o bryd. Nid chi yw’r unig un sy’n teimlo fel hyn. Mae nifer o bobl yn cael cyfnodau lle bo pethau’n teimlo’n ormod iddynt a gall eu hemosiynau deimlo’n ormod, yn enwedig emosiynau negyddol.

Dydych chi ddim ar eich pen eich hun

Gallai cael syniadau negyddol wneud i chi deimlo eich bod ar eich pen eich hun ac nad oes neb i droi atynt ond cofiwch, nid ydych ar eich pen eich hun. Hyd yn oed os ydych yn teimlo na fedrwch rannu eich meddyliau gydag unrhyw un yr ydych yn eu hadnabod, mae gwirfoddolwyr a gweithwyr proffesiynol sy’n malio amdanoch ac yn deall ychydig o’r hyn yr ydych yn ei deimlo.

Mae teimladau yn mynd

Er efallai eich bod yn teimlo’n ofnadwy ar hyn o bryd, nid yw teimladau’n para am byth. Gall fod yn anodd gweld y tu hwnt i’ch sefyllfa bresennol ond gall siarad am bethau eich cynorthwyo i weld cipolwg o rywbeth sy’n fwy gobeithiol yn y dyfodol.

Ffyrdd i helpu eich hun

Cysylltu â phobl

Hyd yn oed os mai dros zoom y gallwch wneud am nawr, gall sgwrs gyda ffrindiau da neu eich teulu godi eich calon, gwneud i chi chwerthin a theimlo’n llai unig.

Trafodwch eich teimladau

Rhannwch eich teimladau gyda ffrind agos neu aelod o'r teulu a gadael i'r masg "dw i'n iawn" lithro ychydig bob hyn a hyn. Gall sgwrs sydd ychydig yn ddyfnach eich cynorthwyo i roi ychydig o bersbectif ar bethau a theimlo’n well am y dyfodol.

Cadw at drefn

Gall cynllunio eich diwrnod eich cynorthwyo i deimlo llonyddwch pan fydd popeth yn teimlo’n ansicr. Cadwch at amseroedd penodol i fwyta, cysgu ac ymarfer eich corff a gallant fod yn angor i chi ddod yn ôl atynt yn ystod y dydd. Mae hyn yn hynod o wir yn ystod cyfnodau clo neu gyfnodau o fod yn ddi-waith.

Gwnewch amser ar gyfer pethau yr ydych yn eu mwynhau

Er efallai eich bod yn teimlo bod cyfyngiad o ran gallu gwneud eich hoff weithgareddau ar hyn o bryd, mae digon o bethau y gallwch eu gwneud o gartref neu fathau o weithgarwch awyr agored sy’n cael eu caniatáu. Ceisiwch ganfod 30 munud y dydd os allwch chi, ar gyfer rhywbeth creadigol, i ymlacio neu i fod yn yr awyr agored.

Ymarferion anadlu ac ymlacio

Gall ymarferion sy’n canolbwyntio ar reoli eich anadlu neu ymlacio eich cyhyrau eich cynorthwyo i deimlo’n dawelach. Mae sawl ffordd o wneud hyn fel apiau, fideos, podlediad neu ddarllen cyfarwyddiadau ar wefannau. Edrychwch ar yr enghreifftiau hyn gan Mind. Chwiliwch am yr un sydd hawsaf i chi droi ato pan fyddwch yn teimlo wedi’ch llethu. Byddwch yn ei gofio’n gyflym a gellir ei integreiddio i’r drefn ddyddiol gymaint ag sydd ei angen arnoch.

Ac yn olaf…

Mae’r mwyafrif yn gweld bywyd yn anoddach na’r arfer ar hyn o bryd; byddwch yn glên i chi eich hun ac ystyried pethau bach y gallwch fod yn falch ohonynt. Mae eich corff yn mynd drwy newidiadau mawr ac ar yr un pryd rydych yn wynebu newidiadau mawr oherwydd digwyddiad byd-eang.

Byddwch yn onest gyda chi eich hun a siarad gydag eraill am eich teimladau. Nid ydych yn gwneud hyn ar eich pen eich hun, mae cymorth ar gael. Gofynnwch am gefnogaeth a byddwch yn dechrau gweld eich sefyllfa mewn ffordd fwy cadarnhaol.

Effaith y Menopos (gwefan allanol).

Cymorth Cyntaf Iechyd Meddwl Cymru

Amswer i Newid Cymru     "Rydym ni'n ymrwymo i newid y ffordd rydym ni’n meddwl am iechyd meddwl ac yn ei drin yn y gwaith."