Menopos yn y gwaith

Services and information

Mae rheoli effaith y menopos yn y gwaith yn bwysig ar gyfer cyflogwyr a’r staff.

Menopos yn y gwaith

Ar gyfer y rhai sy’n profi symptomau gall fod yn gyfnod anodd a llawn straen. Bydd pawb yn profi’r menopos yn wahanol ac ar gyfer rhai, gall y symptomau fod yn eithafol a gall effeithio ar bobl yn gorfforol ac yn feddyliol. Mae’n bwysig bod cyflogwyr yn ymwybodol o’r holl bobl a allai brofi’r menopos a symptomau’r menopos a’u cefnogi’n gyfartal.

Pam fod hyn yn bwysig

Ar gyfer cyflogwyr, mae’r menopos yn bryder iechyd a lles ar gyfer staff ac mae angen ei drin yn sensitif.

Mae’n bwysig bod cyflogwyr yn ymwybodol y gall y menopos a‘r symptomau effeithio ar staff ar unrhyw adeg. Gall bod yn ymwybodol o hyn gynorthwyo staff i barhau i wneud eu gwaith yn hyderus ac effeithiol.

Gall y menopos gael effaith ar y rhai sy’n cefnogi rhywun sy’n profi’r menopos hefyd, er enghraifft perthynas, partner, cydweithiwr neu ofalwr.

Er mai dim ond menywod a rhai sy’n cael mislif fydd yn profi’r menopos, dylid cynnwys dynion yn y sgyrsiau a’r hyfforddiant. Y rheswm dros hyn yw efallai eu bod yn cefnogi eraill sy’n ei brofi.

Gall cefnogi a chreu amgylchedd positif ac agored rhwng cyflogwr a rhywun sydd wedi’i effeithio gan y menopos gynorthwyo i atal unigolyn rhag:

  • colli hyder yn eu sgiliau a’u galluoedd
  • teimlo bod angen iddynt gymryd amser o’r gwaith a chuddio’r rhesymau dros hynny
  • profi mwy o gyflyrau iechyd meddwl fel straen, gorbryder ac iselder
  • gadael eu swydd

Os ydych chi’n ei gwneud yn hawdd i rywun siarad â chi, bydd yn haws nodi’r gefnogaeth sydd ei hangen arnynt.

Sut i gael sgwrs am y menopos fel rheolwr

  • Gofynnwch gwestiynau syml, agored heb feirniadaeth
  • Osgoi ymatebion beirniadol neu nawddoglyd
  • Siaradwch yn dawel a chadw cyswllt llygad
  • Osgoi unrhyw beth fyddai’n tarfu - diffoddwch y ffôn
  • Sicrhewch nad oes modd i gydweithwyr gerdded i mewn a thorri ar draws
  • Rhowch digon o gyfle i’r gweithiwr
  • Egluro’r sefyllfa yn eu geiriau eu hunain
  • Paratowch ar gyfer cyfnodau o dawelwch a byddwch yn amyneddgar
  • Canolbwyntio ar yr unigolyn, nid y broblem
  • Dangoswch empathi a dealltwriaeth
  • Anogwch y gweithiwr i siarad
  • Gwrandewch yn ofalus

Gall siarad am y menopos yn y gwaith achosi embaras. Ond bob tro y cawn sgwrs hyderus yn y gwaith am y menopos, rydym yn cymryd cam tuag at normaleiddio’r testun.

Dyma rai awgrymiadau o ran sut i siarad â'ch rheolwr:

  • Paratowch yr hyn yr ydych am ei ddweud - ysgrifennwch ychydig o syniadau os yw’n help a’i ymarfer gyda chyfaill neu bartner agos.
  • Trefnwch amser sy’n gyfleus - mae’n well ceisio trefnu ystafell breifat os ydych chi yn y swyddfa. Gwnewch yn siŵr eich bod yn trefnu digon o amser fel nad ydych yn gorfod rhuthro.
  • Cadwch ddyddiadur o’ch symptomau- nodwch sut maent yn effeithio arnoch chi’n gorfforol neu’n feddyliol. Ceisiwch roi enghreifftiau penodol lle bo modd.
  • Byddwch yn glir a pheidiwch â theimlo embaras wrth rannu - eglurwch yr hyn sy’n digwydd, y sefyllfa a sut mae’n effeithio ar eich gwaith.
  • Cynnig datrysiad - gwnewch awgrymiadau o ran beth allai gynorthwyo i reoli eich symptomau yn y gwaith.
  • Olrhain y mater - rhowch amser i’ch rheolwr feddwl am yr hyn yr ydych wedi’i ddweud ac awgrymu amser i gael cyfarfod dilynol i drafod y camau nesaf.