Ynglŷn â'r Menopos

Services and information

Mae arnom ni eisiau cefnogi ein staff i gyflawni iechyd a lles cadarnhaol, a sicrhau eich bod yn gwybod ble gallwch gael mynediad at gefnogaeth os byddwch yn teimlo bod arnoch ei hangen.

Menopos

Beth yw'r menopos?

Rydym eisiau cefnogi ein staff i sicrhau iechyd a lles cadarnhaol yn ystod y perimenopos a’r menopos.

Menopos yw pan fydd mislif menyw yn dod i ben. Ystyr menopos yw’r ‘mislif olaf’. Nid dim ond y rhai sy’n ystyried eu hunain fel menywod fydd yn profi’r menopos. Gall rhai dynion trawsryweddol, unigolion anneuaidd a phobl ryngryw neu bobl gydag amrywiadau yn eu nodweddion rhyw brofi’r menopos hefyd.

Mae’r menopos yn ddigwyddiad naturiol ac yn gyfnod pontio y mae pob menyw yn ei brofi, ond, mae’r amseru a’r symptomau yn wahanol i bawb. Mae modd edrych ar hanes eich teulu i gael syniad o ran pryd y bydd yn digwydd i chi. Mae’n debyg o ddigwydd ar oedran tebyg i’ch mam neu eich chwiorydd hŷn.

Gall y menopos ddigwydd yn sgil llawdriniaethau penodol neu driniaethau cancr. Weithiau gall hyn achosi i symptomau ddigwydd yn gyflymach ac yn fwy eithafol mewn rhai achosion.

Camau'r Menopos

Drwy gydol eu bywydau, mae merched yn mynd drwy gamau atgenhedlu gwahanol, a phob un gyda’i arwyddocâd a’i heriau ei hun.

Cyn menopos

Cyn menopos

  • Oedran: glasoed i ganol y 40au
  • Symptomau: dim
  • Ffrwythlondeb: ar ei uchaf
Perimenopos

Perimenopos

Perimenopos (gwefan allanol) yw'r cyfnod o ddechrau symptomau'r menopos hyd nes bydd menyw wedi profi ei mislif olaf. Bydd mislif yn dechrau digwydd yn llai aml dros ychydig fisoedd neu flynyddoedd cyn iddynt ddod i ben yn gyfan gwbl. Efallai y byddant yn fwy anaml ac yn mynd yn drymach neu'n ysgafnach. Ar gyfer rhai menywod, gall ddod i ben yn gyflym.

  • Oedran: canol y 40au i'r menopos
  • Symptomau: dwys
  • Ffrwythlondeb: dirywio'n gyflym
Menopos

Menopos

  • Oedran: 51 ar gyfartaledd
  • Symptomau: ysgafn / dwys
  • Ffrwythlondeb: gorffen yn swyddogol

Mae'r perimenopos a'r menopos yn rhan naturiol o gwrs bywyd menyw ac fel arfer mae'n digwydd rhwng 45 oed a 55 oed, wrth i lefelau oestrogen menyw ostwng (ond gall ddechrau'n gynt). Yn y DU, cyfartaledd oedran menywod ar gyfer y menopos yw 51.

Ar ôl y menopos

Ar ôl y menopos

Wedi'r menopos (gwefan allanol) yw'r cyfnod ar ôl i fenyw brofi ei mislif olaf. Dywed bod menyw wedi'r menopos pan nad yw wedi profi mislif am 12 mis.

  • Oedran: ar ôl y menopos
  • Symptomau: dim / ysgafn
  • Ffrwythlondeb: wedi dod i ben

Nid oes rhaid rhoi bywyd o’r neilltu oherwydd y menopos. Mae sawl peth y gellir ei wneud i reoli’r symptomau, gan gynnwys gwneud dewisiadau iach, rhoi cynnig ar driniaethau gwahanol a cheisio cefnogaeth gan weithwyr gofal iechyd proffesiynol.