Adolygiad o'r Tabl Cyflogau

Gwasanaethau a gwybodaeth

Dogfen ymgynghori â staff yw hon sy’n cynnig gwybodaeth am y Tabl Cyflogau newydd arfaethedig ar gyfer pob aelod staff sydd ar delerau ac amodau cyflogaeth y llyfr gwyrdd.

Pay Table Review

Dogfennau

Cwestiynau Cyffredin

Gwybodaeth Gyffredinol

Am beth mae'r cynnig hwn yn sôn?

Mae'r ymgynghoriad hwn yn amlinellu Tabl Cyflogau newydd i staff ar delerau ac amodau’r Llyfr Gwyrdd. Mae'n cynnwys Prif Swyddogion, Gweithwyr Ieuenctid, Gweithwyr Soulbury, Athrawon a staff Dechrau Gweithio.

Pam bod Tabl Cyflogau newydd yn cael ei gyflwyno?

Er mwyn cydymffurfio â’r gofyniad cenedlaethol i ddileu pwynt colofn 2 ar y raddfa gyflogau erbyn mis Ebrill 2026 a chreu strwythur cyflogau tecach, mwy gwydn.

Strwythur Cyflogau a Newidiadau

Beth yw prif nodweddion y Tabl Cyflogau newydd?

  • Mae’n dechrau ar bwynt colofn 5 y raddfa gyflogau
  • Graddfeydd 1–4: 2 godiad cyflog cynyddrannol
  • Gradd 5 ac uwch: 3 codiad cyflog cynyddrannol
  • Ni ddefnyddir rhai pwyntiau colofn er mwyn diogelu’r strwythur i’r dyfodol
  • Dim gorgyffwrdd rhwng graddfeydd

A fydd cyflog unrhyw un yn gostwng?

Na. Bydd cyflog cyfredol pob gweithiwr yn aros yr un fath neu’n cynyddu.

Pwy sy’n elwa fwyaf o’r Tabl Cyflogau?

Staff ar Raddfeydd 1-4, yn cynnwys:

  • Glanhawyr
  • Cymorthyddion Addysgu (Lefel 1 a 2)
  • Swyddogion Gweinyddol (Lefel 1 a 2)
  • Gweithwyr Gwastraff ac Ailgylchu
  • Cynorthwywyr Arlwyo
  • Goruchwylwyr Canol Dydd
  • ...a mwy.

Llinell Amser a Gweithredu

Pryd fydd y Tabl Cyflogau newydd yn dod i rym?

1 Ebrill 2026.

Beth sy’n digwydd ar y dyddiad hwnnw?

  • Bydd staff cymwys yn cael eu codiad cyflog cynyddrannol
  • Bydd yr holl staff yn cael eu cymhathu drosodd i’r Tabl Cyflogau newydd

Dyddiadau allweddol i’w nodi:

GweithgareddDyddiad
Ymgynghoriad staff 1-31 Hydref 2025
Ymgysylltu â’r Cynghorwyr Hydref 2025
Cymeradwyaeth y Cabinet Tachwedd 2025
Cymeradwyaeth y Cyngor Llawn Rhagfyr 2025
Rhoi gwybod i staff yn ffurfiol Ionawr 2026
Gweithredu 1 Ebrill 2026

AD a Chymhathu

A fydd codiadau cyflog cynyddrannol yn dal i gael eu dyfarnu?

Byddant. Bydd codiad cyflog cynyddrannol yn cael ei drefnu cyn cymhathu.

Sut fydd cymhathu’n gweithio?

Bydd staff yn cael eu mapio o’u pwynt presennol ar y golofn gyflog i’r pwynt newydd yn seiliedig ar raddfa a statws cynyddrannol. Gweler Atodiad 4 yn y ddogfen am fanylion llawn.


Adborth a Chefnogaeth

Sut galla i rannu adborth?

E-bost: PayandRewards@denbighshire.gov.uk

Gyda phwy y gallaf gysylltu ag ymholiadau’n ymwneud ag undebau?

EnwSwyddE-bostFfôn
Alyn Thomas Trefnydd Rhanbarthol GMB Alyn.Thomas@gmb.org.uk 01492 535 313
David Morgan Ysgrifennydd Cangen Unsain David.morgan@denbighshire.gov.uk 07818 580104
Simon Ellis Swyddog Rhanbarthol Unite Simon.Ellis@unitetheunion.org 01978 800880

Credyd Cynhwysol

Sylwer, os oes unrhyw gydweithwyr yn cael credyd cynhwysol ac yn bryderus am effaith y tâl ychwanegol hwn, cysylltwch â’r Adran Gwaith a Phensiynau’n uniongyrchol.