Gwirfoddoli gydag Ar Ymyl Gofal

Ar Ymyl Gofal

Mae tîm Ar Ymyl Gofal Cyngor Sir Ddinbych yn awyddus i recriwtio gwirfoddolwyr gyda’r gobaith o wella iechyd meddwl a lles unigolion sy’n byw yn yr ardal.

Mae tîm Ar Ymyl Gofal yn chwilio am wirfoddolwyr i leihau unigedd/gwella cymdeithasu a gallai hyn gynnwys cyfarfod ag unigolion wyneb yn wyneb, dros y ffôn neu drwy fynychu grwpiau cymdeithasol gyda’i gilydd.

Gall y cyfleoedd fod yn addas ar gyfer myfyrwyr sydd angen profiad gwirfoddoli o fewn iechyd meddwl neu ar gyfer y rhai sydd â rhywfaint o amser rhydd ac eisiau cefnogi eraill yn eu cymuned.

Os byddwch yn penderfynu gwirfoddoli, bydd y tîm yn ceisio eich paru â rhywun sy'n rhannu diddordebau tebyg. Gallwch wirfoddoli ar ddiwrnodau ac amseroedd sy'n gweddu i'ch ymrwymiadau presennol a bydd hyfforddiant yn cael ei ddarparu i'ch helpu i deimlo'n hyderus yn eich rôl wirfoddoli newydd.

I gofrestru eich diddordeb yn y cyfle gwirfoddoli hwn, llenwch ein ffurflen ar-lein isod:

Ymholiad am wirfoddoli