Recriwtio diogelach: Gwasanaeth Datgelu a Gwahardd (GDG)

Gofynion GDG ar gyfer swydd newydd

Wrth recriwtio ar gyfer swydd newydd, mae’n rhaid i reolwyr benderfynu os yw angen:

  • gwiriad GDG safonol
  • gwiriad Manylach GDG
  • gwiriad manylach ar gyfer gweithgaredd wedi'i rheoleiddio

Gweler y Polisi GDG sy’n amlinellu pa rolau sy’n gymwys ar gyfer pa lefel o wiriad, neu gallwch ddefnyddio’r gwasanaeth ar-lein GDG i wirio bod rôl yn gymwys ar gyfer gwiriad GDG a pha fath – GOV.UK: Find out which DBS check is right for your employee (gwefan allanol)

Bydd pob swydd ble mae gan weithwyr fynediad i blant ac/neu oedolion diamddiffyn yn ddarostyngedig i wiriad GDG manylach gyda gwiriad rhestrau a rwystrwyd yn unol â’r meini prawf cymhwysedd a amlinellir gan y GDG.

Yr isafswm oed y gall rhywun gael gwiriad GDG yw 16 oed.

Mae gwiriadau GDG yn cael eu cynnal yn bennaf drwy wasanaeth ar-lein sydd wedi eu caffael (gan ‘First Advantage Online Disclosures’), sy’n golygu fod gwiriadau yn cael eu cwblhau yn llawer cynt ac yn galluogi i staff newydd ddechrau yn eu rôl newydd yn gynt. Gall gweithwyr hefyd ddewis ymuno â’r Gwasanaeth Diweddaru GDG sy’n caniatáu i hyd yn oed wneud gwiriad cynt.

Mae’r GDG yn defnyddio system ffiltro, sy’n golygu yn dibynnu ar y math o GDG, na fydd rhai rhybuddion, cerydd, amodau yn cael eu datgelu, gan eu bod yn cael eu hystyried wedi eu ‘diogelu’ o dan y Gorchymyn Deddf Adsefydlu Troseddwyr 1974 (Eithriadau) 1975.  Nid oes yn rhaid i chi ddatgelu troseddau nad ydynt yn dod o fewn y rheolau uchod.  Gweler y Polisi GDG am fwy o wybodaeth ar yr hyn sy’n cael ei ddatgelu.

Ni fydd datgeliadau neu droseddau ar dystysgrif GDG yn golygu nad yw rhywun yn gyflogadwy yn awtomatig. Bydd yn dibynnu ar y drosedd a’r swydd ac felly bydd pob rheolwr unigol yn cynnal asesiad risg gyda’r unigolyn.

Gall gweithwyr a rheolwyr ddod o hyd i wybodaeth bellach am wiriadau GDG drwy naill ai ddarllen y polisi GDG neu drwy ymweld â’r Gwasanaeth GDG ar-lein - GOV.UK: About the Disclosure and Barring Service (gwefan allanol)

Polisi: gwasanaeth datgelu a gwahardd (GDG) (PDF, 1.65MB)

Cysylltu â ni

Dogfennau cysylltiedig