Sir Ddinbych yn Gweithio: Cymorth a mentora

Bydd aelod o dîm Sir Ddinbych yn Gweithio yn eich cefnogi â’ch anghenion, nodau a gofynion personol. Yr unigolyn hwnnw fydd eich mentor.

Yn ystod cyfarfodydd â’ch mentor, gallwch drafod eich amgylchiadau, dewisiadau a’ch swyddi delfrydol. Bydd eich mentor yn trafod â chi beth ydych chi'n teimlo fyddai'n eich helpu i oroesi unrhyw rwystrau sydd o bosibl yn  eich atal rhag cyrraedd eich nod, megis;

  • dysgu sgiliau newydd drwy gwblhau hyfforddiant
  • ennill profiad a geirdaon cyfredol drwy wirfoddoli
  • dod o hyd i swydd

Cysylltu â ni: Sir Ddinbych yn Gweithio

Cefnogaeth

Gall Sir Ddinbych yn Gweithio eich cefnogi â:

Budd-daliadau ac Ymrwymiad Hawlydd

Byddwn yn eich helpu i ddeall eich budd-daliadau a’ch helpu i ddarganfod beth ydych chi'n gymwys ar ei gyfer, a thrwy Cyngor Ar Bopeth, gallwn sicrhau eich bod yn derbyn y cymorth sydd ei angen arnoch o bosibl i fynd i’r afael ag unrhyw broblemau. Gallant hefyd eich helpu ag arbed ynni a lleihau eich biliau tanwydd.

Byddwn hefyd yn eich cefnogi i fodloni eich Ymrwymiad Hawlydd ar gyfer y Ganolfan Swyddi drwy ddarparu hyfforddiant i’ch helpu i;

  • ddefnyddio cyfrifiadur
  • cael mynediad at wybodaeth ar-lein
  • llunio CV cyfredol
  • chwilio am gyfleoedd swyddi.

Dod o hyd i swydd

Gallwn eich helpu i ddarganfod hyfforddiant priodol i'ch helpu i ddod o hyd i'r swydd i chi.

Byddwn ni’n gwneud y gwaith caled o ran chwilio am swydd, mae gennym restr gyfredol o gyfleoedd swyddi a gallwn baru eich sgiliau i swyddi gwag, neu gallwn eich helpu i ennill sgiliau yn ogystal â'ch helpu i wneud cais. 

Dod o hyd i gyfleoedd gwirfoddoli 

Byddwn yn gweithio’n galed i geisio eich helpu i ennill profiad gwaith gan ddod o hyd i gyfle gwirfoddoli ac fe wnawn ni ein gorau i sicrhau eich bod yn hapus yno.

Costau teithio

Mae cymorth ar gael ar gyfer eich costau teithio os bydd yn rhaid teithio i gyrsiau hyfforddiant neu leoliadau gwirfoddoli.

Beth ydym ni'n ei ddisgwyl gennych chi

Rydym ni’n disgwyl y canlynol;

Cyfarfodydd gyda'ch mentor

Pan fyddwch chi’n cytuno i gyfarfod eich mentor, sicrhewch eich bod yn mynychu’r cyfarfod neu sicrhewch eich bod yn rhoi gwybod iddynt os na fyddwch yn gallu bod yno. Unwaith y bydd apwyntiad wedi’i drefnu â chi, mae’r amser hwnnw wedi'i ddyrannu'r i'ch cefnogi, ac efallai y bydd eich Mentor wedi gorfod teithio i ddod draw i'ch gweld. Cofiwch roi gwybod i ni mewn da bryd os oes angen i ni ail-drefnu.

Tystiolaeth

I ddarparu cymorth i chi, mae’n rhaid i ni ofyn am dystiolaeth sy’n profi eich bod yn gymwys. Bydd eich mentor yn rhoi gwybod i chi beth mae'n rhaid iddynt ei weld, dewch â'r dogfennau â chi er mwyn i ni allu eich cefnogi cyn gynted â phosibl.

Gwaith Papur

Mae ffurflenni y mae’n rhaid i ni eu cwblhau â chi er mwyn ein helpu i gadw cofnod o'ch hanes gwaith, budd-daliadau ac unrhyw rwystrau sydd o bosibl yn eich atal rhag symud ymlaen.

Cyrsiau Hyfforddi

Gall cyrsiau hyfforddi fod yn ddrud, felly mae’n rhaid i chi eu mynychu a’u cwblhau. Rhowch wybod i ni os oes unrhyw reswm pam na allwch fynychu hyfforddiant sydd wedi’i drefnu ar eich cyfer er mwyn i ni allu gwneud trefniadau amgen.

Work Star™

Dogfen yw Work Star™ sy’n eich helpu chi a’ch Mentor i ddarganfod beth yw eich blaenoriaethau. Efallai eich bod yn awyddus iawn i ddod o hyd i waith ac angen cymorth wedi’i dargedu er mwyn cyflawni hynny, neu efallai nad ydych chi’n barod i ddod o hyd i swydd ar hyn o bryd, efallai bod problemau eraill y mae'n rhaid i chi fynd i'r afael â hwy cyn dechrau meddwl am weithio.

Bydd y Work Star™ yn helpu i nodi blaenoriaethau a chynllunio sut i ymgymryd â chamau er mwyn datblygu. Bydd eich Mentor yn helpu i wneud y broses hon mor syml â phosibl.