Sir Ddinbych yn Gweithio: Dydd Mawrth Rhoi Cynnig ar Rywbeth Newydd
Ymunwch â ni ar gyfer Dydd Mawrth Rhoi Cynnig ar Rywbeth Newydd, sef sesiynau cyfeillgar, cefnogol wythnosol i breswylwyr Sir Ddinbych sy’n 16 oed neu hŷn nad ydynt mewn gwaith nac addysg ac yn meddwl am eu camau nesaf.

Bob wythnos fe gewch gyfle i:
- fwynhau gweithgaredd creadigol neu les gwahanol
- cwrdd â phobl newydd
- dysgu sgiliau newydd
- magu eich hyder mewn amgylchedd ymlaciol, croesawgar
Does yna ddim pwysau, dim ond cyfle i roi cynnig arni a chysylltu â phobl eraill.
Darperir lluniaeth hefyd.
Pwy all fynychu?
Os ydych chi’n 16 oed neu’n hŷn, yn byw yn Sir Ddinbych, ac os nad ydych chi mewn gwaith neu addysg ar hyn o bryd, dewch draw i unrhyw sesiwn.
Pryd a lle fydd y sesiynau’n cael eu cynnal?
Cynhelir y sesiynau canlynol yng Ngorsaf Vibe, Y Rhyl rhwng 1pm a 3pm:
- Dydd Mawrth 22 Medi 2026 – Lliwio meddylgar
- Dydd Mawrth 29 Medi 2026 – Gemau bwrdd
- Dydd Mawrth 6 Hydref 2026 – Creu jariau atgofion
- Dydd Mawrth 13 Hydref 2026 – Clwb posau
- Dydd Mawrth 20 Hydref 2026 – Paentio cerrig llyfn
- Dydd Mawrth 27 Hydref 2026 – Sylfaeni gwnïo
- Dydd Mawrth 3 Tachwedd 2026 – Lliwio Mandala
- Dydd Mawrth 10 Tachwedd 2026 – Mat diod mosaig
- Dydd Mawrth 17 Tachwedd 2026 – Gwneud torch allweddi
- Dydd Mawrth 24 Tachwedd 2026 – Gwneud smwddi
- Dydd Mawrth 1 Rhagfyr 2026 – Gwneud torch Nadolig
- Dydd Mawrth 8 Rhagfyr 2026 – Gwneud cerdyn Nadolig
- Dydd Mawrth 5 Ionawr 2027 – Crefftau clai sy’n sychu’n naturiol
- Dydd Mawrth 12 Ionawr 2027 – Gweithdy Origami
- Dydd Mawrth 19 Ionawr 2027 – Cadw dyddiadur
- Dydd Mawrth 26 Ionawr 2027 – Celf diemwnt
Bydd rhagor o ddyddiadau a gweithgareddau yn cael eu hychwanegu.
Sut i gyrraedd Gorsaf VIBE.
Sut i gymryd rhan
Does dim angen archebu lle, mae sesiynau yn rhad ac am ddim, ac mae croeso i chi fynychu cynifer ag yr hoffech chi.
Cymerwch gam positif ymlaen a darganfod rhywbeth newydd bob wythnos.
Cysylltu â ni
- Cysylltu â ni ar-lein - Cysylltwch â ni ar-lein a gofynnwch am alwad yn ôl os hoffech i ni eich ffonio chi
- Ymweld â ni - Ymwelwch â ni wyneb yn wyneb yn Gorsaf VIBE
- Ffoniwch ni - 01745 331438
Dilynwch ni