Sir Ddinbych yn Gweithio: Sesiynau alw heibio niwroamrywiol - Deall Byd Gwaith
Ydych chi wedi cael diagnosis niwroamrywiol, neu'n meddwl y gallech chi fod yn niwroamrywiol? Os felly, dyma’r sesiwn i chi.
Gall deall gwaith deimlo’n llethol. Mae'r sesiynau galw heibio cyfeillgar hyn yn darparu lles, cefnogaeth ac arweiniad fel cam cyntaf tuag at wirfoddoli, hyfforddiant neu gyflogaeth.
P'un a ydych chi'n awyddus i feithrin hyder, gwella'ch lles, neu ddod o hyd i le cefnogol i siarad, mae croeso i chi ymuno â ni.
Beth i’w ddisgwyl:
- Amgylchedd hamddenol ac anffurfiol
- Cefnogaeth sy'n canolbwyntio ar les
- Helpu i feithrin hyder a gwydnwch
- Cyfleoedd i gysylltu ag eraill
- Canllawiau i'ch helpu i gymryd eich camau nesaf pan fyddwch chi'n barod
Cyflwynir y sesiynau hyn gan Barod a'u cefnogi gan Gefnogwr Niwroamrywiaeth Sir Ddinbych, cydweithwyr sydd â phrofiad byw o niwroamrywiaeth sy'n creu lle croesawgar a charedig.

Pryd a lle fydd y sesiynau’n cael eu cynnal?
Cynhelir sesiynau alw heibio niwroamrywiol - Deall Byd Gwaith rhwng 3:30pm a 5pm yng Ngorsaf VIBE yn y Rhyl:
- Dydd Mawrth 29 Medi 2026
- Dydd Mawrth 27 Hydref 2026
- Dydd Mawrth 24 Tachwedd 2026
- Dydd Mawrth 26 Ionawr 2027
- Dydd Mawrth 23 Chwefror 2027
- Dydd Mawrth 30 Mawrth 2027
Dysgwch sut i gyrraedd Gorsaf Vibe.
Sut i gymryd rhan
Nid oes angen archebu lle i fynychu sesiwn galw heibio. Galwch heibio i unrhyw sesiwn am gymorth a sgwrs gyfeillgar.
Cysylltu â ni
- Cysylltu â ni ar-lein - Cysylltwch â ni ar-lein a gofynnwch am alwad yn ôl os hoffech i ni eich ffonio chi
- Ymweld â ni - Ymwelwch â ni wyneb yn wyneb yn Gorsaf VIBE
- Ffoniwch ni - 01745 331438
Dilynwch ni