Sir Ddinbych yn Gweithio: Sesiynau Galw Heibio Cyfathrebu i Bawb
Mae ein sesiynau galw heibio wythnosol yn cael eu cynnal mewn cydweithrediad â’r Ganolfan Arwyddo Golwg Sain.
Mae’r sesiynau galw heibio hyn yn darparu cyngor arbenigol, gwybodaeth, hyfforddiant a chefnogaeth ymarferol i gynorthwyo â goresgyn rhwystrau i golli synhwyrau, cyfathrebu a hygyrchedd.

Pwy all fynd?
Mae sesiynau galw heibio Cyfathrebu i Bawb ar agor i unrhyw un sy’n byw yn Sir Ddinbych:
- sydd ddim mewn gwaith neu addysg llawn amser ar hyn o bryd
- sydd ag anabledd, cyfrifoldebau gofalu neu gyflwr iechyd
- sydd eisiau datblygu sgiliau newydd
Pryd a lle fydd y sesiynau’n cael eu cynnal?
Cynhelir y sesiynau galw heibio o 10am tan 2pm, bob dydd Gwener, ac eithrio dydd Nadolig, yng Ngorsaf VIBE yn y Rhyl.
Sut i gyrraedd Gorsaf VIBE.
Sut i gymryd rhan
Nid oes angen archebu lle i fynychu sesiwn galw heibio. Galwch heibio i unrhyw sesiwn am gymorth a sgwrs gyfeillgar.
Trailblazer
Mae’r rhaglen Trailblazer, a ariennir gan Lywodraeth y DU, yn targedu pobl oedran gweithio sy’n anabl a/neu sydd â chyflyrau iechyd, neu gyfrifoldebau gofalu drwy ddarparu cefnogaeth wedi’i theilwra.
Eisoes yn rhan o’r rhaglen Trailblazer? Holwch eich ymgynghorydd Trailblazer am y sesiynau galw heibio.
Ddim yn rhan o’r rhaglen Trailblazer? Cysylltwch â Sir Ddinbych yn Gweithio i ddarganfod mwy.
Cysylltu â ni
- Cysylltu â ni ar-lein - Cysylltwch â ni ar-lein a gofynnwch am alwad yn ôl os hoffech i ni eich ffonio chi
- Ymweld â ni - Ymwelwch â ni wyneb yn wyneb yn Gorsaf VIBE
- Ffoniwch ni - 01745 331438
Dilynwch ni