Sir Ddinbych yn Gweithio: Stopio Ysmygu - Sesiynau Galw Heibio
Ydych chi’n ystyried rhoi’r gorau i ysmygu? Dewch draw i'n sesiynau galw heibio wythnosol am ddim i weld pa gefnogaeth sydd ar gael i'ch helpu chi i roi'r gorau i ysmygu am byth.
Fe gewch chi wybodaeth, canllawiau a chymorth cyfeillgar ar sut i roi’r gorau i ysmygu, a dysgu sut y gall gwasanaeth rhoi’r gorau i ysmygu am ddim y GIG yng Nghymru, Helpa Fi i Stopio, eich helpu chi ar eich taith i fod yn ddi-fwg.
Bydd y sesiynau'n darparu gwybodaeth, cyngor a chyfeiriadau at Helpa Fi i Stopio, sef gwasanaeth rhoi'r gorau i ysmygu am ddim y GIG yng Nghymru.
Helpa Fi Stopio
Mae Helpa Fi i Stopio yn cynnig cefnogaeth arbenigol i unrhyw un sy'n barod i roi'r gorau i ysmygu. Gallwch gael gafael ar y gefnogaeth hon drwy:

Pwy gaiff ddod i’r sesiynau?
Mae’r sesiynau galw heibio hyn ar gael i unrhyw un sydd eisiau rhoi’r gorau i ysmygu, p’un a ydych chi’n barod i roi’r gorau iddi rŵan neu dim ond yn ystyried eich dewisiadau.
Pryd a lle fydd y sesiynau’n cael eu cynnal?
Stopio Ysmygu - Cynhelir Sesiynau Galw Heibio rhwng 10am a 12pm yng Ngorsaf VIBE yn y Rhyl:
- Dydd Mercher 5 Awst 2026
- Dydd Mercher 12 Awst 2026
- Dydd Mercher 19 Awst 2026
- Dydd Mercher 26 Awst 2026
Dysgwch sut i gyrraedd Gorsaf Vibe.
Bydd y sesiynau hyn yn cael eu treialu drwy gydol mis Awst 2026, gyda'r gobaith o’u parhau yn dibynnu ar y galw a’r atgyfeiriadau.
Sut i gymryd rhan
Nid oes angen archebu lle i fynychu sesiwn galw heibio. Galwch heibio i unrhyw sesiwn am gymorth a sgwrs gyfeillgar.
Cysylltu â ni
- Cysylltu â ni ar-lein - Cysylltwch â ni ar-lein a gofynnwch am alwad yn ôl os hoffech i ni eich ffonio chi
- Ymweld â ni - Ymwelwch â ni wyneb yn wyneb yn Gorsaf VIBE
- Ffoniwch ni - 01745 331438
Dilynwch ni