Sir Ddinbych yn Gweithio: Digwyddiadau hyfforddi rhad ac am ddim

Gwybodaeth am ddigwyddiadau hyfforddi rhad ac am ddim i’ch helpu chi i gychwyn neu ddatblygu eich gyrfa.

Bydd mwy digwyddiadau hyfforddi yn cael eu hychwanegu i’r dudalen hon. Gwiriwch yn rheolaidd i gael y wybodaeth ddiweddaraf.

Gwasanaethau a gwybodaeth

Digwyddiadau wythnosol

Paned a Sgwrs

Ymunwch â ni am Baned a Sgwrs mewn sesiwn gyfeillgar a rhyngweithiol lle gallwch chi ymarfer eich Cymraeg mewn amgylchedd braf heb unrhyw bwysau.

Sesiwn galw heibio Barod ar gyfer pobl ifanc rhwng 16 a 24 oed

Mae ein sesiwn galw heibio i bobl ifanc rhwng 16 a 24 oed yn un hamddenol a chyfeillgar, lle gallwch ddod i gwrdd â hyfforddwr lles a chysylltu â phobl eraill sydd o bosibl yn teimlo’r un fath.

Cerdded a Siarad

Ymunwch â’n Cerdded a Siarad wythnosol am ddim, mewn partneriaeth â Barod a Ramblers Cymru.

Gorffennaf 2025

Cynnal a chadw, ac atgyweirio beics (gwefan allanol)

Dyddiad: Dydd Iau 31 Goirffennaf 2025.
Lleoliad: Llyfrgell y Rhyl.
Dysgwch sut i gadw eich beic mewn cyflwr rhagorol a thrwsio problemau cyffredin yn ein gweithdy ymarferol ar gynnal a thrwsio beiciau.


Cysylltu â ni

  • Cysylltu â ni ar-lein - Cysylltwch â ni ar-lein a gofynnwch am alwad yn ôl os hoffech i ni eich ffonio chi.
  • Ffoniwch ni - 01745 331438 / 07342 070635.

working-denbighshire-funded-by-uk-government-logo working-denbighshire-welsh-government-logo Logo Cymunedau am Waith a Mwy Working Denbighshire logo