Sir Ddinbych yn Gweithio: Sesiwn Galw Heibio ‘Fy Amser i’ i Bobl Ifanc (16 i 25 oed)
Ydych chi’n chwilio am rywle sy’n berffaith i chi? Rhywle i ymlacio, bod yn greadigol, dysgu pethau newydd a chyfarfod pobl sydd â’r un meddylfryd â chi?
Dewch draw i “Fy Amser i”, sesiwn galw heibio ymlaciol lle gallwch:
- ddisgleirio: rhoi cynnig ar weithgareddau creadigol, diwrnodau â thema a heriau tîm sy’n eich helpu chi i deimlo’n dda a magu hyder.
- dysgu: adeiladu sgiliau ar gyfer bywyd a gwaith trwy sesiynau hwyliog ac anffurfiol. Byddwn yn gweithio â sefydliadau eraill i’ch helpu chi i baratoi ar gyfer eich dyfodol.
- bod yn chi: man diogel a chroesawus i fod yn chi eich hun, gwneud ffrindiau a siarad â gweithwyr ieuenctid sydd yma i’ch cefnogi chi.
P’un a ydych yn y coleg, yn gweithio neu’n ceisio dod o hyd i’ch traed – mae’r man hwn ar eich cyfer chi. Os nad ydych mewn addysg, gwaith neu hyfforddiant ar hyn o bryd, mae croeso arbennig i chi fynychu’r sesiynau hyn.
Gall mynychu eich helpu chi i:
- ddysgu am berthnasau iach a sut i ofalu am eich lles
- cael awgrymiadau ar gyllidebu a bwyta’n ddoeth
- magu hyder ac annibyniaeth
- teimlo’n llai ynysig ac yn fwy cysylltiedig

Pwy sy’n cael dod?
Mae sesiynau galw heibio ‘Fy Amser i’ ar gyfer unrhyw un sydd rhwng 16 a 25 oed, sy’n byw yn Sir Ddinbych.
Pryd a ble caiff sesiynau galw heibio Barod eu cynnal?
Cynhelir sesiynau galw heibio ‘Fy Amser i’ yng Nghanolfan Ieuenctid y Rhyl gyda’r Gwasanaeth Ieuenctid, bob dydd Iau rhwng 1pm a 3pm.
Sut i gymryd rhan
Gall unrhyw un sydd rhwng 16 a 25 oed, sy’n byw yn Sir Ddinbych ddod draw i unrhyw un o’n sesiynau galw heibio. Nid oes angen apwyntiad, mae’r sesiynau yn rhad ac am ddim a gallwch fynychu cymaint o sesiynau ag y mynnwch.
Cysylltu â ni
- Cysylltu â ni ar-lein - Cysylltwch â ni ar-lein a gofynnwch am alwad yn ôl os hoffech i ni eich ffonio chi.
- Ffoniwch ni - 01745 331438 / 07342 070635.
Dilynwch ni