Deddf Tai (Cymru) 2014

Mae Deddf Tai (Cymru) 2014 wedi cyflwyno diwygiad sylfaenol i ddeddfwriaeth digartrefedd.

Mae hon yn system gynhwysol sydd wedi'i chynllunio i helpu pawb sydd mewn perygl yn hytrach na'r rhai mewn grwpiau blaenoriaeth yn unig:

  • dyletswydd i helpu unrhyw un sydd dan fygythiad o ddigartrefedd o fewn y 56 diwrnod nesaf
  • dyletswydd i ddarparu help i unrhyw berson digartref i'w helpu i sicrhau cartref
  • pwer yn hytrach na dyletswydd i gymhwyso'r prawf bwriadoldeb
  • pwerau i awdurdodau lleol gyflawni eu dyletswyddau digartrefedd trwy ddod o hyd i lety yn y sector rhentu preifat
  • dyletswyddau cryfach ar Gymdeithasau Tai i gefnogi awdurdodau lleol i gyflawni eu dyletswyddau digartrefedd

Pwrpas y ddeddfwriaeth yw cyflawni:

  • llai o aelwydydd yn dioddef trawma digartrefedd
  • gwaith atal gwell, wedi'i dargedu'n well
  • mwy o gymorth, cyngor a gwybodaeth i aelwydydd sy'n derbyn cymorth cyfyngedig o dan y ddeddfwriaeth gyfredol
  • mwy o ffocws ar y defnyddiwr gwasanaeth, gan eu helpu i fynd i'r afael ag achosion digartrefedd a gwneud penderfyniadau gwybodus ar ddod o hyd i atebion i'w problem tai
  • defnydd mwy effeithiol o'r sector rhentu preifat fel ateb i ddigartrefedd
  • pwyslais cryfach ar gydweithrediad a gweithio amlasiantaethol
  • mwy o ddiogelwch yn cael ei ddarparu i blant mewn aelwydydd sy'n ddigartref neu dan fygythiad o ddigartrefedd yn ogystal â chymorth ychwanegol i blant sy'n gadael gofal

I gael mwy o wybodaeth am Ddeddf Tai (Cymru) 2014, ewch wefan y ddeddfwriaeth (gwefan allanol).

Sut i gael help

I gael help a chyngor, ac i drafod eich opsiynau, gallwch:

Helpwch eich hun gyda'n canllaw atal digartrefedd.

Tu Allan i Oriau Swyddfa

Os byddwch yn dod yn ddigartref y tu allan i oriau gwaith, ac nad oes gennych unrhyw le diogel i gysgu gallwch ffonio ein gwasanaeth y tu allan i oriau ar 0300 123 30 68.