Amrywiadau a thynnu Goruchwyliwr Eiddo Dynodedig
Dim ond y daliwr trwydded eiddo sy’n gallu gwneud cais i newid y person sydd wedi ei enwebu fel Goruchwyliwr Eiddo Dynodedig.
Newid y Goruchwyliwr Eiddo Dynodedig
Gallwch wneud cais i newid eich Goruchwyliwr Eiddo Dynodedig ar-lein.
Gwneud cais i newid eich Goruchwyliwr Eiddo Dynodedigar-lein (gwefan allanol)
Ffurflen ganiatâd
Bydd yn rhaid i chi ddarparu ffurflen ganiatâd wedi ei llofnodi gan y person enwebedig neu ni fydd eich cais yn ddilys.
Gyflwyno’ch ffurflen ganiatâd ar-lein (gwefan allanol)
Faint mae'n costio?
Mae’n costio £23 i newid y Goruchwyliwr Eiddo Dynodedig.
Sut y gallaf dalu?
Gellir talu â cherdyn dros y ffôn i wasanaethau cwsmeriaid (01824 706000). Mae taliad gyda siec neu arian parod ar gael yn un o Siopau Un Alwad Sir Ddinbych yn unig. Cysylltwch â ni i gael y cyfeirnod priodol cyn ceisio talu. Gall methu â darparu’r cyfeirnod priodol achosi oedi gyda’ch cais
Gadael eich rôl fel Goruchwyliwr Eiddo Dynodedig
Os nad ydych chi’n dymuno bod yn Oruchwyliwr Eiddo Dynodedig ac os nad oes cais i newid y drwydded eiddo wedi ei gyflwyno, gallwch wneud cais i dynnu’ch enw oddi ar y drwydded.
Gallwch gyflwyno’ch cais drwy lenwi ffurflen gais ar-lein.
Gwneud cais i gael ei symud fel goruchwyliwr safle dynodedig ar-lein (gwefan allanol)