Hysbysiad awdurdod dros dro

Os yw trwydded eiddo’n mynd yn ddi-rym oherwydd marwolaeth, anallu neu fethdaliad daliwr y drwydded, mae modd i rywun â chysylltiad yn yr eiddo neu rywun sy’n gysylltiedig â daliwr y drwydded gyflwyno Hysbysiad Awdurdod Dros Dro.

Mae’n rhaid cyflwyno Hysbysiad Awdurdod Dros Dro o fewn 28 diwrnod i’r dyddiad yr aeth y drwydded yn ddi-rym. Yna bydd y drwydded yn cael ei hadfer a bydd y person sydd wedi cyflwyno’r hysbysiad yn dal y drwydded.

Mae Hysbysiad Awdurdod Dros dro mewn grym am dri mis. Yn ystod y cyfnod hwn mae modd gwneud cais i drosglwyddo trwydded.

Sut ydw i’n gwneud cais am hysbysiad awdurdod dros dro?

Gallwch wneud cais am hysbysiad awdurdod dros dro ar-lein.

Gwneud cais am hysbysiad awdurdod dros dro ar-lein (gwefan allanol)

Faint mae’n costio?

Mae gwneud cais am hysbysiad awdurdod dros dro yn costio £23.

Sut y gallaf dalu?

Gellir talu â cherdyn dros y ffôn i wasanaethau cwsmeriaid (01824 706000). Mae taliad gyda siec neu arian parod ar gael yn un o Siopau Un Alwad Sir Ddinbych yn unig. Cysylltwch â ni i gael y cyfeirnod priodol cyn ceisio talu. Gall methu â darparu’r cyfeirnod priodol achosi oedi gyda’ch cais

Mwy wybodaeth

Rydym yn argymell eich bod yn darllen drwy ein Polisi Datganiad Trwyddedu.

Polisi Datganiad Trwyddedu (PDF, 796KB)