Trwydded eiddo clwb

Gwnewch gais am drwydded eiddo clwb os ydych yn glwb cymdeithasol, chwaraeon neu wleidyddol gydag aelodau (megis clwb gweithwyr neu glwb Lleng Brydeinig) a’ch bod chi eisiau: 

  • gwerthu neu gyflenwi alcohol i aelodau neu westeion
  • darparu adloniant wedi ei reoleiddio, megis perfformiadau cerddorol neu ffilmiau, i aelodau neu i westeion

Os oes gan eich clwb drwydded adeiladau clwb: 

  • efallai y gall gyflenwi alcohol i aelodau a’i werthu i westeion heb yr angen i unrhyw aelod neu weithiwr fod â thrwydded bersonol – mae hyn yn dibynnu ar yr hyn y mae’r dystysgrif yn ei ganiatáu 
  • nid oes angen iddi nodi Goruchwyliwr Safle Penodedig 
  • mae gan yr heddlu a swyddogion trwyddedu hawliau mwy cyfyngedig i gael mynediad oherwydd bod yr eiddo yn rhai preifat

Amodau

I fod yn gymwys i dderbyn tystysgrif eiddo clwb, mae’n rhaid i’ch clwb wneud yn siŵr: 

  • fod yr eiddo yn cael ei feddiannu neu ei ddefnyddio’n rheolaidd ar gyfer pwrpasau’r clwb
  • na chaiff alcohol nac adloniant ei ddarparu i neb ond i aelodau a’u gwesteion ar safle’r clwb 
  • dim ond rhywun sy’n 18 oed neu hŷn ac sydd wedi ei enwebu gan y clwb a all weini alcohol neu ei brynu ar gyfer y clwb 
  • nad oes unrhyw drefniant i unrhyw un fod ar eu hennill yn ariannol o fod yn prynu a gwerthu alcohol 
  • rhaid i aelodau aros deuddydd o gyflwyno eu cais cyn cael buddiannau aelodaeth 
  • ei fod wedi ei sefydlu ag ewyllys da ac y caiff ei redeg yn yr un modd 
  • fod ganddo o leiaf 25 o aelodau

Rydym yn argymell eich bod yn darllen drwy ein Polisi Datganiad Trwyddedu.

Polisi Datganiad Trwyddedu (PDF, 796KB)

Mae trwydded eiddo clwb yn ddilys yn ddiderfyn.

Sut ydw i’n gwneud cais am drwydded eiddo clwb?

Gallwch wneud cais am drwydded eiddo clwb ar-lein.

Gwneud cais am drwydded eiddo clwb ar-lein (gwefan allanol)

Pan fyddwch yn gwneud cais, bydd angen i chi ddarparu cynllun o’r adeiladau, a chopi o reolau’r clwb. Bydd angen i chi anfon copi o’ch cais at yr awdurdodau cyfrifol.

Awdurdodau cyfrifol i Gyngor Sir Ddinbych (PDF, 153KB)

Faint mae'n ei gostio?

Mae’r ffi ar gyfer cais am drwydded adeiladau clwb yn dibynnu ar werth treth annomestig yr eiddo. Byddwch hefyd yn talu ffi flynyddol am y drwydded, a fydd yn daladwy bob blwyddyn ar ben-blwydd y dyddiad y cyhoeddwyd y dystysgrif. Gallwch ddod o hyd i wybodaeth ar wefan gov.uk (gwefan allanol).

Sut y gallaf dalu?

Gellir talu â cherdyn dros y ffôn i wasanaethau cwsmeriaid (01824 706000). Mae taliad gyda siec neu arian parod ar gael yn un o Siopau Un Alwad Sir Ddinbych yn unig.

Talu drwy BACS

Mae ein manylion BACS yn:

  • Banc: Natwest, 5 Queen Street, y Rhyl, LL18 1RS
  • Cod Didoli: 54 41 06
  • Rhif y Cyfrif: 22837469
  • Enw’r Cyfrif: Cronfa Sirol Cyngor Sir Ddinbych

Gwnewch yn siŵr eich bod yn cynnwys cyfeirnod pan fyddwch chi’n gwneud taliad h.y. yn nodi enw/eiddo/rhif trwydded (os ydych chi’n ei wybod) ynghyd efo Cod Cost. Unwaith y bydd taliad wedi'i wneud, anfonwch gopi o'r taliad at trwyddedu@sirddinbych.gov.uk.

Beth os yw fy amgylchiadau’n newid?

Os yw eich clwb yn dal trwydded ar hyn o bryd a bod yr amgylchiadau’n newid, mae’n rhaid i chi adael i ni wybod.

Dywedwch wrthym am newid bach i’ch eiddo neu i’ch clwb presennol (gwefan allanol).

Dywedwch wrthym am unrhyw newid i’ch manylion presennol neu i reolau’r clwb (gwefan allanol).

Dywedwch wrthym am unrhyw newid i eiddo’r clwb (gwefan allanol).