Bydd arnoch chi angen hawlen gamblo i gael peiriannau hapchwarae yn eich eiddo. Mae’r math o hawlen sydd ei hangen arnoch chi’n dibynnu ar nifer a math y peiriannau hapchwarae y mae arnoch chi eu heisiau.
Rydym ni’n gyfrifol am roi hawlenni gamblo ar gyfer:
- eiddo â thrwydded gwerthu alcohol (hawlen peiriant hapchwarae)
- canolfannau adloniant teuluol heb drwydded (hawlen peiriant hapchwarae)
- hapchwarae â gwobr
- clybiau (hawlen hapchwarae clwb a hawlen peiriant clwb)
Mwy o wybodaeth am y mathau gwahanol o hawlenni (gwefan allanol).
Rydym yn argymell eich bod yn darllen drwy ein Datganiad Polisi Hapchwarae (PDF, 726KB)
Sut ydw i’n gwneud cais?
Lawrlwythwch y ffurflen gais:
Anfonwch eich ffurflen gais, ynghyd â siec am y ffi gywir i:
Trwyddedu
Gwasanaethau Cynllunio, Gwarchod y Cyhoedd a Chefn Gwalad
Caledfryn
Ffordd y Ffair
Dinbych
Sir Ddinbych
LL16 3RJ
Mae’r math o hawlen y byddwch chi ei hangen yn dibynnu ar y math o beiriant sydd gennych chi. Mwy o wybodaeth am gategorïau peiriannau hapchwarae (gwefan allanol).
Hawlen peiriant hapchwarae
Os oes gennych chi eiddo trwyddedig ac os ydych chi’n bwriadu cael dau beiriant hapchwarae categori C neu D, mae’n rhaid i chi roi gwybod i’r Cyngor. Gallwch ddefnyddio’r ffurflen hon i roi gwybod i ni.
Hysbysiad am 2 neu lai o beiriannau hapchwarae neu geisiadau am drwydded peiriant hapchwarae (PDF, 179KB)
Os ydych yn dod yn drwyddedai safle trwyddedig presennol rhaid i chi hysbysu'r Cyngor o hyd. Mae ffi untro ar gyfer pob hysbysiad.
Mae’n rhaid i chi wneud cais am hawlen peiriant hapchwarae eiddo trwyddedig os ydych chi’n bwriadu cael mwy na dau beiriant.
Hawlen hapchwarae clwb a hawlen peiriant clwb
Mae hawlen hapchwarae clwb yn eich galluogi i gael hyd at dri pheiriant hapchwarae categori B4, C neu D a darparu hapchwarae siawns cyfartal.
Mae hawlen peiriant clwb yn eich galluogi i gael hyd at dri pheiriant hapchwarae categori B4, C a D, ond ni yw’n eich galluogi i gael unrhyw fath arall o hapchwarae.
Faint mae’n costio?
Mae ffioedd hawlenni gamblo yn dibynnu ar y math o hawlen. Edrychwch ar y rhestr hon i weld y ffi debygol y bydd yn rhaid i chi dalu.
Ffioedd hawlenni gamblo (PDF, 74KB)
Dylid gwneud sieciau’n daladwy i Gyngor Sir Ddinbych.
Sut y gallaf dalu?
Gellir talu â cherdyn dros y ffôn i wasanaethau cwsmeriaid (01824 706000). Mae taliad gyda siec neu arian parod ar gael yn un o Siopau Un Alwad Sir Ddinbych yn unig. Cysylltwch â ni i gael y cyfeirnod priodol cyn ceisio talu. Gall methu â darparu’r cyfeirnod priodol achosi oedi gyda’ch cais