Trwyddedau parcio i breswylwyr
Mae cynlluniau parcio yn atal pobl nad ydynt yn breswylwyr rhag parcio mewn ardaloedd preswyl lle mae parcio’n broblem.
Sut ydw i'n defnyddio'r drwydded barcio hon?
Mae nifer o ardaloedd parcio i breswylwyr yn unig yn Sir Ddinbych. Mae’r rhain wedi eu dynodi’n glir ag arwyddion a marciau ffyrdd. Os ydych chi’n byw yn un o’r ardaloedd hyn, a’ch bod chi’n parcio ar y ffordd yn yr ardal yn rheolaidd, mae’n rhaid i chi wneud cais am drwydded parcio, hyd yn oed os oes gennych chi fathodyn glas.
Ardaloedd parcio i breswylwyr yn unig
Sylwch, os gwelwch yn dda, dim ond os ydych chi’n byw yn un o’r strydoedd hyn y cewch chi wneud cais am drwydded barcio i breswylydd. Ni chewch wneud cais am drwydded barcio os oes gennych chi fusnes ar un o’r strydoedd hyn ond nad ydych chi’n byw yn yr eiddo.
Dinbych
- Heigad
- Lon Pendref
- Stryd y Dyffryn
Llanelwy
Llangollen
- Stryd y Bont
- Stryd y Capel
- Stryd yr Eglwys
Rhuthun
- Stryd Llanrhydd
- Stryd y Farchnad
- Stryd Mount
- Wernfechan
Y Rhyl
- Ffordd Brighton
- Ffordd Cilgant
- Oxford Grove
- Parc Morlan
- Rhodfa'r Brenin
- Stryd Bedford
- Stryd Cinmel
- Stryd Clwyd
- Stryd Elwy
- Stryd Gorllewin Cinmel
- Stryd Paradwys
- Stryd Thorpe
- Stryd Vezey
- Stryd Windsor
- Stryd y Baddon
- Stryd y Tywysogion
- Y Promenâd: Marine Drive
- Y Promenâd: Pared y Dwyrain
- Y Promenâd: Pared y Gorllewin
Sut ydw i'n gwneud cais am drwydded barcio?
Er mwyn gwneud cais am drwydded barcio i breswylwyr llenwch ffurflen gais a’i hanfon i’r cyfeiriad ar y ffurflen.
Ffurflen gais parcio trigolion (PDF, 11KB)
Ffurflen gais adnewyddu parcio trigolion (PDF, 110KB)
Faint mae'n gostio?
Mae trwydded barcio i breswylydd yn costio £25.54 y drwydded y flwyddyn. Dylech gynnwys siec neu archeb bost yn daladwy i Gyngor Sir Ddinbych gyda’ch ffurflen gais.
Mae’n costio £5 i adnewyddu trwydded wedi ei dwyn neu ei cholli.
Os oes gennych chi fathodyn glas ni fydd angen i chi dalu am eich trwydded barcio i breswylwyr, ond bydd rhaid i chi anfon copi o’ch bathodyn gals gyda’ch ffurflen gais, os gwelwch yn dda.
Petaech chi’n newid eich cerbyd mae’n rhaid i chi anfon eich trwydded yn ôl atom ni ac fe wnawn ni roi un newydd i chi. Ni chodir tâl am hyn.