Prydau Ysgol am Ddim Cyffredinol i Ysgolion Cynradd

I helpu â chostau byw cynyddol, rydym yn gweithio gyda Llywodraeth Cymru i sicrhau y bydd pob disgybl cynradd yn cael cynnig prydau ysgol am ddim erbyn 2024 drwy’r cynllun Prydau Ysgol am Ddim Cyffredinol i Ysgolion Cynradd.

Yn ysgolion Sir Ddinbych, mae Prydau Ysgol am Ddim i Ysgolion Cynradd ar gael ar hyn o bryd i bob plentyn:

  • dosbarth derbyn
  • blwyddyn 1
  • blwyddyn 2
  • blwyddyn 3
  • blwyddyn 4
  • blwyddyn 5
  • blwyddyn 6

Mae hwn yn wahanol i’r cynllun Prydau Ysgol am Ddim sydd ar gael i bobl sy’n derbyn budd-daliadau penodol.

Bwydlenni Cinio Ysgolion Cynradd

Gweler bwydlenni cinio ysgolion cynradd (gwefan allanol)

Pwy sy’n gyfrifol am dalu costau’r prydau ysgol hyn am ddim?

Yn 2022 ymrwymodd Llywodraeth Cymru i gyflwyno prydau ysgol am ddim i bob disgybl cynradd erbyn mis Medi 2024 fel rhan o’r Rhaglen Lywodraeth a Chytundeb Cydweithio â Phlaid Cymru.

Gwnaethpwyd yr ymrwymiad hwn mewn ymateb i bwysau cynyddol costau byw ar deuluoedd, ac oherwydd eu bod yn rhannu’r uchelgais o fynd i’r afael â thlodi plant a sicrhau nad oes unrhyw blentyn yn mynd heb fwyd yn yr ysgol.

Er mwyn cyflawni’r uchelgais hwn mae LlC wedi darparu cyllid Cyfalaf a Refeniw i holl awdurdodau lleol Cymru.

Yn Sir Ddinbych mae’r cyllid cyfalaf yn cael ei ddefnyddio i dalu costau gwella’r gegin a chyfleusterau bwyta ar draws yr awdurdod er mwyn sicrhau bod gennym y cynhwysedd digonol i ddarparu prydau i bob disgybl cynradd.

Mae’r cyllid refeniw yn cael ei ddefnyddio i dalu costau bwyd ychwanegol sydd ei angen a’r cynnydd mewn lefelau staffio i allu coginio a goruchwylio’r nifer gynyddol o ddisgyblion sy’n cael prydau ysgol.

Pryd fydd Prydau Ysgol am Ddim Cyffredinol ar gael?

Bydd Prydau Ysgol am Ddim Cyffredinol i Ysgolion Cynradd ar gael i blant mewn:

  • dosbarthiadau derbyn o fis Medi 2022
  • blwyddyn 1 o fis Ionawr 2023
  • blwyddyn 2 o fis Ebrill 2023
  • blwyddyn 3 a 4 o fis Medi 2023
  • blwyddyn 5 a 6 o fis Ionawr 2024

Pam mae’r cynllun prydau ysgol am ddim cyffredinol i ysgolion cynradd yn cael ei gyflwyno fesul cam?

Mae cyfleusterau arlwyo ysgolion i gyd yn wahanol. Yn Sir Ddinbych, mae angen gwneud gwaith sylweddol mewn rhai ysgolion cynradd er mwyn cynyddu eu cynhwysedd arlwyo yn ddigonol, ac mae angen amser i wneud y gwelliannau hyn cyn y gallwn gyflwyno’r cynnig i bob grŵp blwyddyn.

Yn ogystal â bod angen amser i wella isadeiledd ceginau Sir Ddinbych, mae angen amser hefyd i gynyddu lefelau staffio yn raddol yn ein ceginau a’n hystafelloedd bwyta mewn ysgolion. Mewn rhai achosion bydd angen newid amseroedd cinio’r ysgolion er mwyn medru arlwyo i nifer fwy o ddisgyblion sy’n cael prydau ysgol.

Pa waith ailwampio sydd wedi’i gwblhau hyd yma?

Fel rhan o gam 1 y prosiect, rydym wedi llwyddo i ailwampio 13 o geginau / ystafelloedd bwyta. Yng ngham 2 bwriedir gwella 16 o geginau / ystafelloedd bwyta eraill.

Sut i gael Prydau Ysgol am Ddim Cyffredinol ar gyfer eich plentyn

Bydd yr ysgol yn gofyn i bob plentyn (mewn grŵp blwyddyn sy’n cynnig Prydau Ysgol am Ddim Cyffredinol) yn ddyddiol os ydynt yn dymuno cael pryd ysgol.

Nid oes proses ymgeisio i wirio os yw disgybl yn gymwys i gael Prydau Ysgol am Ddim Cyffredinol i Ysgolion Cynradd.

Gallwch gysylltu ag ysgol eich plentyn i gael gwybod mwy am sut i gael Prydau Ysgol am Ddim Cyffredinol i Ysgolion Cynradd.

Prydau Ysgol am Ddim

Os ydych yn gymwys i gael Prydau Ysgol am Ddim oherwydd eich bod yn cael budd-dal cymwys, rydym yn argymell eich bod yn gwneud cais am Brydau Ysgol am Ddim gan y byddwch hefyd yn gymwys am y grant offer a gwisg ysgol.

I gael mwy o wybodaeth, yn cynnwys beth yw’r budd-daliadau cymwys a sut i ymgeisio, ewch i’n tudalen prydau ysgol am ddim.

Gofynion penodol / dietegol

Ar hyn o bryd, darperir ar gyfer dietau arbennig ac alergeddau hysbys ar draws pob ysgol a bydd hyn yn parhau. Trafodwch y gofynion penodol sydd gan eich plentyn yn uniongyrchol gyda’r ysgol.

Bocsys bwyd o adref

Os byddai’n well gennych chi, gall eich plentyn fynd â bocs bwyd o adref yn lle cael pryd ysgol am ddim. Gallwch hefyd fanteisio ar y cynnig o bryd ysgol am ddim cyffredinol ar rai diwrnodau a bocs bwyd ar ddiwrnodau eraill.