Gwybodaeth i bobl ifanc am Wasanaeth Cwnsela Annibynnol Sir Ddinbych i Bobl Ifanc
Mae ein Gwasanaeth Cwnsela yn rhoi’r cyfle i chi siarad gyda chwnselydd annibynnol am unrhyw broblemau cymdeithasol neu emosiynol y gallai fod gennych, a hynny mewn dull diogel a hygyrch.
Argyfyngau
Os wyt mewn argyfwng ac angen cefnogaeth yn syth, cysyllta â:
- Os bydd dy fywyd mewn perygl uniongyrchol, ffonia 999 i gael help mewn argyfwng.
- Y Samariaid – Ffonia 08457 909090
- Childline (hyd at 25 oed) – Ffonia 0800 1111
Cwnselwyr
Mae ein holl gwnselwyr wedi cymhwyso, ac mae ganddynt lawer o brofiad o ran gweithio gyda phlant a phobl ifanc ac maent wedi eu hachredu’n unigol neu’n gweithio tuag at achrediad gan Gymdeithas Cwnsela a Seicotherapi Prydain (BACP).
Bydd cwnselwyr dan hyfforddiant ar leoliad yn aelodau o BACP ac yn gweithio tuag at eu cymhwyster cwnsela.
I bwy mae’r gwasanaeth cwnsela ar gael?
Fe all unrhyw blentyn neu berson ifanc rhwng 11 a 18 oed (Blwyddyn 6 i Flwyddyn 13) sy’n byw yn Sir Ddinbych neu’n mynd i ysgol yn y sir, gael cwnsela.
Atgyfeirio eich hun i’r gwasanaeth cwnsela
Gwybodaeth am sut i gwneud atgyfeiriad at Wasanaeth Cwnsela Annibynnol Pobl Ifanc Sir Ddinbych
Caniatâd ar gyfer cwnsela
Dysgwch am bwy sydd angen caniatâd a sut i'w ddarparu.
Mwy o wybodaeth
Gwybodaeth am sesiynau Wasanaeth Cwnsela Annibynnol Pobl Ifanc Sir Ddinbych.
Fe allwch gysylltu â ni os hoffech ragor o wybodaeth am ein gwasanaeth.