Bod yn llywodraethwr

Mae corff llywodraethu ysgol yn gyfrifol am wneud penderfyniadau sydd er budd y disgyblion.  Ynghyd â'r pennaeth, y corff llywodraethu sy'n pennu amcanion a blaenoriaethau'r ysgol.

Mae'r ysgol yn atebol i'r corff llywodraethu.  Mae'r corff llywodraethu yn gyfrifol am ddull o gynnal yr ysgol, ac mae'n rhaid hyrwyddo safonau uchel o gyflawniad addysgol.

Mae'r corff llywodraethu yn gwneud y canlynol:

  • penodi ac yn rheoli perfformiad y pennaeth
  • gosod diben ac amcanion yr ysgol o fewn fframwaith polisi y cytunwyd arno
  • cytuno ar strategaeth gwella'r ysgol, sy'n cynnwys gosod targedau statudol
  • monitro a gwerthuso gwaith yr ysgol
  • adolygu perfformiad y pennaeth, effeithlonrwydd y fframwaith polisi, cynnydd tuag at dargedau, ac effeithlonrwydd y strategaeth gwella ysgolion
  • ymateb i adroddiadau gan y gwasanaeth gwella ysgolion ac Estyn yn ôl yr angen
  • sicrhau y caiff rhieni eu cynnwys, yr ymgynghorir â hwy ac y cânt eu hysbysu fel y bo'n briodol
  • sicrhau bod gwybodaeth ar gael i'r gymuned ehangach yn ôl y gofyn

Pwy all fod yn llywodraethwr ysgol?

Gall unrhywun dros 18 oed fod yn llywodraethwr ysgol - does dim rhaid i chi fod yn rhiant sydd â phlentyn yn yr ysgol.  Fodd bynnag, mae pob corff llywodraethu yn cynnwys llywodraethwyr sy'n rhieni, a gall fod yn ffordd werth chweil o fod yn rhan o ysgol eich plentyn.

Mae rhesymau penodol pam na chaniateir i rywun fod yn llywodraethwr. 

Meini prawf gwahardd llywodraethwyr ysgol.

Mae bod yn llywodraethwr yn ffordd o wella eich sgiliau a'ch profiad mewn rôl sy'n rhoi boddhad. Byddwn yn ardystio eich rôl, sy'n golygu y gallwch ei ddefnyddio i arddangos eich sgiliau a'ch profiad wrth wneud cais am swyddi eraill.

Sut mae dod yn llywodraethwr ysgol?

Rydym bob amser am glywed gan bob sy’n meddwl eu bod yn meddu ar yr ymrwymiad a’r sgiliau i fod yn lywodraethwr ysgol.  Mae gennym fas data o swyddi gwag yr ydym bob amser yn ceisio eu llenwi.   Byddem hefyd yn croesawu ceisiadau gan grwpiau heb gynrychiolaeth ddigonol er mwyn sicrhau fod yr holl Gyrff Llywodraeth yn adlewyrchu amrywiaeth eu cymunedau.

Os oes gennych ddiddordeb mewn bod yn llywodraethwr ysgol, llenwch y ffurflen isod a byddwn yn cysylltu â chi gyda manylion llawn.  Byddwn yn cadw eich manylion ar ffeil, ac yn rhoi gwybod i chi os bydd swydd wag addas yn codi.  Os byddwch yn newid eich meddwl, ac nad ydych bellach yn awyddus i fod yn llywodraethwr, rhowch wybod i ni a byddwn yn eich tynnu oddi ar ein cronfa ddata.

Mae gofyn i lywodraethwyr ysgol;

  • Fynd i gyfarfodydd y corff llywodraethu yn rheolaidd
  • Mynd ar hyfforddiant gofynnol llywodraethwyr
  • Ymweld â’r ysgol yn rheolaidd
  • Gweithredu fel rhan o gorff corfforaethol ac nid fel unigolyn
  • Parchu a chadw cyfrinachedd bob amser

Cofrestrwch eich diddordeb mewn bod yn llywodraethwr