Beth ddylwn i ei wneud â chwyn?

Gallwch fel arfer roi chwyn o’ch gardd yn eich bin gwastraff gardd gwyrdd neu fynd â nhw i’r Parc Ailgylchu fel gwastraff gardd (am ddim).

Mae rhai mathau o chwyn estron yn ymledol ac yn niweidiol i’r amgylchedd. Mae’r rhain yn cynnwys:

  • Tafol y cŵn
  • Llysiau’r gingroen
  • Ysgall y maes
  • Tafol crych
  • Efwr enfawr
  • Jac y neidiwr
  • Canclwm Japan
  • Marchysgall

Peidiwch â rhoi’r rhain yn eich bin gwastraff gardd. Cysylltwch â chontractwr gwastraff arbenigol.