Casgliadau gwastraff gardd

Gallwn gasglu eich gwastraff gardd pob pythefnos am ffi flynyddol.

Sut i drefnu casgliadau gwastraff gardd

Cofrestru a thalu am gasgliadau gwastraff gardd

Ar ôl i chi gofrestru a thalu am y gwasanaeth gwastraff gardd, os nad oes yna fin gwyrdd ar olwynion yn eich eiddo eisoes, byddwch angen rhoi gwybod am gynhwysydd ar goll.

Adnewyddu eich tanysgrifiad

Gallwch adnewyddu eich tanysgrifiad hyd at 12 wythnos cyn i’ch tanysgrifiad ddod i ben. Os nad ydych yn siŵr pryd fydd eich tanysgrifiad yn dod i ben, gallwch ddefnyddio'r ffurflen adnewyddu i gael gwybod pryd y gallwch adnewyddu.

Adnewyddu neu gael gwybod pryd y gallwch adnewyddu eich tanysgrifiad

Uwchraddio eich tanysgrifiad

Os ydych wedi cofrestru ar gyfer casgliadau un bin olwynion gwyrdd 140L neu dri sach dympi ac am newid i gasgliadau dau fin ar olwynion gwyrdd 140L neu chwe sach dympi, gallwch uwchraddio eich tanysgrifiad i £15. Ni fydd uwchraddio yn ymestyn eich tanysgrifiad - bydd hwn yn dod i ben 12 mis o ddyddiad eich casgliad cyntaf ar eich tanysgrifiad gwreiddiol 1 bin olwynion neu 3 sach.

I uwchraddio eich tanysgrifiad gwastraff gardd, bydd angen ichi:

  1. dalu am ddanfon ail fin gwyrdd 140L ar olwynion neu dair sach wastraff ychwanegol
  2. dalu am y gwasanaeth casglu i wagio’r bin/sachau ychwanegol

Gweld y prisiau a darganfod sut i archebu cynwysyddion gwastraff gardd newydd.

Uwchraddiwch eich tanysgrifiad gwastraff gardd

Fel arall, gallwch fynd i Siop Un Alwad neu ffonio 01824 706000.

Beth sy'n digwydd ar ôl i mi drefnu hyn?

Byddwn yn trefnu i gasglu eich gwastraff gardd am 12 mis o ddyddiad eich casgliad cyntaf. Os mai eich tanysgrifiad ar gyfer y gwasanaeth casglu gwastraff gardd yw’r tanysgrifiad cyntaf ar gyfer eich cyfeiriad, fe fyddwn yn anfon y canlynol i chi o fewn 10 diwrnod gwaith:

  • label adnabod unigryw atoch chi ar gyfer eich bin gwyrdd neu’ch sach ddympi werdd
  • calendr dyddiau casglu
  • ac yn danfon cynwysyddion ychwanegol (Codir tâl am gynwysyddion gwastraff)

Faint yw'r gost?

Mae cost ein gwasanaeth casglu gwastraff gardd yn dibynnu ar nifer y cynwysyddion a ddefnyddiwch a sut yr ydych yn tanysgrifio - mae'n rhatach os ydych yn tanysgrifio ar-lein.

Costau tanysgrifio gwastraff gardd
CynhwysyddionCost wrth danysgrifio ar-leinCost wrth danysgrifio unrhyw ffordd arall
Un bin olwyn gwyrdd 140 litr neu dri sach ddympi £35.00 £40.00
Dau fin olwyn gwyrdd 140 litr neu chwe sach ddympi £50.00 £55.00
Cadw eich bin olwyn gwyrdd 240L / 360 litr
£50.00 £55.00

Mae’r cynhwysydd (biniau olwyn neu sachau dympi) rydych chi’n ei ddefnyddio yn dibynnu ar yr hyn rydych chi’n ei ddefnyddio ar hyn o bryd ar gyfer y gwasanaeth x2.

* Mae'r opsiwn yma ar gael i gwsmeriaid a chanddynt eisoes fin olwyn 240/360 litr - ni fyddwn yn dosbarthu mwy o finiau olwyn 240/360 litr.

Cynwysyddion gwastraff ac ailgylchu newydd neu amnewid

Mae taliadau ar gyfer rhai cynwysyddion gwastraff ac ailgylchu newydd neu amnewid.

Ffioedd am gynwysyddion gwastraff gardd
CynhwysyddFfi
Biniau gwyrdd ar olwynion (pob maint) newydd neu yn lle’r rhai presennol £25
Tair sach £15
Sach yn lle’r un bresennol £5 yr un

Atgyweirio bin olwynion sydd wedi'i ddifrodi

Os oes gennych fin olwynion wedi'i ddifrodi, efallai y gallwn ei drwsio. Dysgwch am atgyweiriadau i finiau gwastraff ac ailgylchu sydd wedi'u difrodi.

Sut i archebu cynhwysydd newydd

Gallwch archebu cynhwysydd newydd ar-lein.

Archebu cynhwysydd gwastraff neu ailgylchu newydd ar-lein

Costau gwastraff gardd: Cwestiynau Cyffredin

Pam bod ffi ar gyfer casgliadau gwastraff gardd?

Pam bod ffi ar gyfer casgliadau gwastraff gardd?

Cyflwynodd y Cyngor ffi ar wahân ar gyfer y gwasanaeth casglu gwastraff gardd yn 2015, mewn ymateb i bwysau ychwanegol ar y gyllideb. Cafodd y ffi ei osod ar lefel i gychwyn i gyflawni arbediad blynyddol o £400,000.

Pam bod y ffi ar gyfer casgliadau gwastraff gardd yn newid?

Pam bod y ffi ar gyfer casgliadau gwastraff gardd yn newid?

Mae pwysau parhaus ar gyllidebau’r Cyngor yn golygu bod angen gwneud arbedion pellach i gydbwyso cost flynyddol y gwasanaeth casgliadau (sydd nawr dros £400,000) gyda’r galw. Er bod hyn yn rywbeth rydym yn dymuno ei osgoi, ystyriodd y Cyngor y byddai cynnydd i’r gost, digon i wneud y gwasanaeth casglu gwastraff gardd yn hunangynhaliol, yn cael llai o effaith ar y gymuned na’r dewisiadau arbedion eraill a gyflwynwyd.

Beth yw’r gyfraith mewn perthynas â chodi tâl am gasglu gwastraff gardd?

Beth yw’r gyfraith mewn perthynas â chodi tâl am gasglu gwastraff gardd?

Mae’r gyfraith (Rheoliadau Gwastraff A Reolir 2012) yn rhoi disgresiwn i’r Cyngor godi tâl rhesymol am gasglu gwastraff gardd y cartref. Gellir gosod ffi i adfer cost lawn y gwasanaeth casglu, ond nid oes modd i Gynghorau godi tâl am gost ailgylchu/compostio’r gwastraff gardd.

A oes unrhyw ostyngiadau?

A oes unrhyw ostyngiadau?

Nac oes, ni chynhigir unrhyw ostyngiadau. Mae'r un ffi yn gymwys i bob preswylydd.

A oes angen i mi adnewyddu fy nhaliad bob blwyddyn?

A oes angen i mi adnewyddu fy nhaliad bob blwyddyn?

Oes, ond bydd y Cyngor yn anfon nodyn i'ch atgoffa i adnewyddu eich tanysgrifiad yn y 12 wythnos olaf. Fel arall, os ydych chi’n dewis talu gan ddefnyddio debyd uniongyrchol blynyddol, yna bydd eich tanysgrifiad yn parhau i fod yr un fath, nes rydych yn dewis i'w ganslo.

A oes modd i mi dalu am gasgliad am ran o’r flwyddyn yn unig?

A oes modd i mi dalu am gasgliad am ran o’r flwyddyn yn unig?

Nac oes, mae tanysgrifiadau i’r gwasanaeth yn para 12 mis llawn.

A oes modd i mi gael mwy nag un bin gwastraff gardd?

A oes modd i mi gael mwy nag un bin gwastraff gardd?

Oes, pan rydych yn tanysgrifio i'r gwasanaeth, gallwch ddewis cael un bin sengl neu ddau fin (neu dri neu chwe sach).

A oes modd i mi gael ad-daliad os ydw i’n dod â’r tanysgrifiad i ben yn gynnar?

A oes modd i mi gael ad-daliad os ydw i’n dod â’r tanysgrifiad i ben yn gynnar?

Nac oes, serch hynny, gall preswylwyr drosglwyddo’r balans sy’n weddill o’r tanysgrifiad i gyfeiriad arall, cyfeiriad eu hunain, neu ffrind neu berthynas, yn Sir Ddinbych.

Mwy o wybodaeth

Gwastraff gardd y gellir eu casglu

Mae’r gwastraff gardd canlynol i’w roi yn eich bin olwyn gwyrdd neu’ch sach werdd:

  • toriadau gwair
  • thociadau gardd
  • canghennau a brigau
  • dail
  • rhisgl
  • blodau
  • rhisgl pren a siafins
  • planhigion

Ni fyddwn yn gwagio bagiau gwastraff gwyrdd neu finiau gwyrdd sy’n cynnwys; pridd, gwastraff cartref cyffredinol, cynnyrch bwyd neu unrhyw wair/ naddion pren, pren neu bapur wedi’u halogi gan anifeiliaid.

Ffyrdd eraill o gael gwared ar wastraff gardd

Gallwch drefnu apwyntiad i ddefnyddio ein parciau ailgylchu a gwastraff yn rhad ac am ddim. Darganfyddwch fwy am ein parciau ailgylchu a gwastraff.

Gellir rhwygo rhai mathau o wastraff gardd a'i ddychwelyd i'r pridd fel tomwellt neu ei gompostio yn y cartref, naill ai ar domen gompost traddodiadol neu mewn compostiwr cartref.

Cwsmeriaid casgliadau sachau pinc a chlir wythnosol

Yn anffodus, nid yw’r gwasanaeth casglu gwastraff gardd newydd ar gael i gwsmeriaid y sachau pinc a chlir. Os oes gennych chi sachau pinc neu glir, peidiwch â chofrestru ar gyfer y casgliadau gwastraff gardd newydd. Byddwn yn adolygu’ch gwasanaeth a byddwn yn rhoi gwybod i chi am unrhyw newid.

Cwestiynau Cyffredin Eraill

Ydw i’n gallu rhoi gwastraff gardd yn y bin du?

Ydw i’n gallu rhoi gwastraff gardd yn y bin du?

Nac ydych. Ni fyddwn yn gwagio unrhyw fin du neu sach ysbwriel sy'n cynnwys gwastraff gardd. Mae’n rhaid rhoi gwastraff gardd naill ai yn y bin olwyn gwyrdd neu yn y sach ddympi werdd. Os ydym ni’n canfod gwastraff gardd mewn unrhyw gynhwysydd arall, byddwn yn cyflwyno hysbysiad ffurfiol a bydd camau gorfodi pellach yn cael eu cymryd.

Onid wyf eisoes yn talu am gasgliad gwastraff gardd yn Nhreth y Cyngor?

Onid wyf eisoes yn talu am gasgliad gwastraff gardd yn Nhreth y Cyngor?

Na. Nid oes yn rhaid i Gynghorau ddarparu casgliad am ddim i breswylwyr ar gyfer eu gwastraff gardd er fod ganddynt ddyletswydd i waredu gwastraff y cartref yn rhad ac am ddim. Mae’r gyfraith yn rhoi disgresiwn i’r Cyngor i godi tâl rhesymol am gasglu gwastraff gardd yn yr un modd ag y gellir codi tâl am gasgliad gwastraff mawr.

Sut ydych chi'n gwybod pwy sydd wedi talu am gasgliad gwastraff a gardd a phwy sydd heb?

Sut ydych chi’n gwybod pwy sydd wedi talu am gasgliad gwastraff a gardd a phwy sydd heb?

Mae pob aelwyd sy’n tanysgrifio yn cael barcod unigryw sy’n cael ei atodi i’r bin neu’r biniau, sy'n cysylltu'r biniau i gyfeiriad penodol. Yn ychwanegol at hynny, mae gan bob cerbyd casglu lechen sy’n rhoi gwybodaeth fyw i’r tîm casglu ar y cyfeiriadau hynny sydd wedi tanysgrifio.

A oes modd i mi rannu fy min gwastraff gardd gyda fy nghymydog?

A oes modd i mi rannu fy min gwastraff gardd gyda fy nghymydog?

Oes, gall cymdogion rannu tanysgrifiad, ond cofiwch, mae’n rhaid rhoi’r bin allan yn y cyfeiriad sydd â’r tanysgrifiad i'r gwasanaeth.

Nid ydw i eisiau talu ar gyfer y gwasanaeth hwn. A fyddwch chi'n cymryd fy min gwastraff i ffwrdd?

Nid ydw i eisiau talu ar gyfer y gwasanaeth hwn. A fyddwch chi’n cymryd fy min gwastraff i ffwrdd?

Byddan, os oes gennych fin gwastraff nad ydych yn ei ddefnyddio, dywedwch wrthym a byddwn yn ei gymryd oddi arnoch. Gallwch wneud hyn arlein neu drwy ffonio'r Ganolfan Gwasanaeth i Gwsmeriaid ar 01824 706000.

Beth sy’n digwydd os ydw i'n talu rhywun i dorri glaswellt neu dacluso'r ardd?

Beth sy’n digwydd os ydw i’n talu rhywun i dorri glaswellt neu dacluso'r ardd?

Os ydych chi'n talu rhywun i ofalu am eich gardd, yna gall y gwastraff sy’n cael ei gynhyrchu ei roi yn y bin gwyrdd i'w waredu. Mae’n RHAID i unrhyw gontractwr sy’n mynd â gwastraff o'ch cartref fod wedi ei gofrestru fel cludydd gwastraff a byddant yn codi tâl arnoch am waredu gwastraff gardd yn gyfreithlon.

A oes gan safle ganiatâd, trwydded neu esemptiad (Cyfoeth Naturiol Cymru)

A fydd fy niwrnod casglu neu amser casglu yn newid ar gyfer unrhyw finiau gwastraff gardd rydw i'n talu amdanynt?

A fydd fy niwrnod casglu neu amser casglu yn newid ar gyfer unrhyw finiau gwastraff gardd rydw i'n talu amdanynt?

Bydd y Cyngor yn eich hysbysu o unrhyw newid parhaol i’ch diwrnod casglu gwastraff gardd. Bydd newidiadau dros dro, megis 'rheiny sy’n cael eu gwneud dros wyliau’r Nadolig neu‘n sgil tywydd garw yn ymddangos ar wefan y Cyngor ac ar gyfryngau cymdeithasol y Cyngor. Nodwch y gall amser casgliadau newid heb rybudd oherwydd gwaith ffordd neu amodau tywydd garw, felly mae’r Cyngor yn awgrymu bod y gwastraff yn cael ei osod allan erbyn 7:00am ar eich diwrnod casglu.

Lle ydw i’n atodi sticer y barcod i ddangos fy mod wedi talu?

Lle ydw i’n atodi sticer y barcod i ddangos fy mod wedi talu?

Pan rydych yn derbyn sticer barcod newydd, dylid ei atodi i gefn y bin, tua 300mm (12 modfedd) o dan yr handlen yn ddelfrydol. I sicrhau ei fod wedi cael ei lynu’n dda, sicrhewch bod arwyneb y bin yn lân ac yn sych cyn atodi’r sticer.

Beth os yw fy min gwastraff gardd yn cael ei ddwyn, neu mae difrod i'r sticer/mae'r sticer ar goll?

Beth os yw fy min gwastraff gardd yn cael ei ddwyn, neu mae difrod i'r sticer/mae'r sticer ar goll?

Os yw eich bin gwastraff gardd yn mynd ar goll, gadewch i ni wybod, gallwch wneud hyn arlein neu drwy ffonio’r Ganolfan Gwasanaeth i Gwsmeriaid ar 01824 706000. Os yw eich sticer wedi’i ddifrodi neu ar goll yna rhowch wybod i’r Ganolfan Gwasanaeth i Gwsmeriaid a byddwn yn rhoi un newydd i chi.

Beth sy’n digwydd os ydw i'n symud tŷ?

Beth sy'n digwydd os ydw i'n symud tŷ?

Os ydych chi'n symud, mae modd i chi drosglwyddo'r balans sy'n weddill ar eich tanysgrifiad i gyfeiriad arall yn Sir Ddinbych; cyfeiriad eich hun neu un ffrind neu berthynas.