Parc Ailgylchu a Gwastraff Rhuthun


Newidiadau i'n Parciau Ailgylchu a Gwastraff (o 1 Ebrill 2022)

O 1 Ebrill 2022, bydd trigolion Sir Ddinbych yn gweld rhai newidiadau i'n parciau gwastraff ac ailgylchu.

Bydd angen i chi drefnu apwyntiad cyn ymweld â Pharc Gwastraff ac Ailgylchu.

Darganfyddwch sut i archebu lle mewn Parc Gwastraff ac Ailgylchu

Parc Ailgylchu a Gwastraff Rhuthun
Lôn Parcwr
Rhuthun
LL15 1BB

Dim ond preswylwyr Sir Ddinbych a Chonwy a gaiff ddefnyddio’r Parc Ailgylchu a Gwastraff hwn.

Gellir dod â gwastraff o gartrefi yn Sir Ddinbych/Conwy yn unig i’r Parc Ailgylchu a Gwastraff hwn.

Gall ffrindiau a theulu ddod â gwastraff i’r Parc Ailgylchu a Gwastraff ar ran un o breswylwyr Sir Ddinbych/Conwy.

Rhaid i chi ddarparu tystiolaeth eich bod yn breswylydd yn Sir Ddinbych/Conwy (e.e. trwydded yrru neu fil cyfleustodau) i ddefnyddio’r Parc Ailgylchu a Gwastraff hwn.

Amseroedd agor

Mae amseroedd agor yn newid pan fydd amserau arbed golau dydd yn newid.

Ebrill - Hydref

  • Dydd Llun: 9am i 5pm
  • Dydd Mawrth: 9am i 5pm
  • Dydd Mercher: 9am i 5pm
  • Dydd Iau: 9am i 5pm
  • Dydd Gwener: Ar Gau
  • Dydd Sadwrn: 9am i 5pm
  • Dydd Sul: 9am i 4pm

Tachwedd - Mawrth

  • Dydd Llun: 9am i 4pm
  • Dydd Mawrth: 9am i 4pm
  • Dydd Mercher: 9am i 4pm
  • Dydd Iau: 9am i 4pm
  • Dydd Gwener: Ar Gau
  • Dydd Sadwrn: 9am i 4pm
  • Dydd Sul: 9am i 4pm

Wedi Cau: 25 a 26 Rhagfyr a 1 Ionawr.

Siop Ailddefnyddio ar gael (Parc Gwastraff ac Ailgylchu yn y Rhyl)

Gellir rhoi eitemau'r cartref y gellir eu hailddefnyddio fel dillad, teganau, dodrefn a beiciau i'n pwynt gollwng yn y safle lle byddant yn cael eu didoli a’u hanfon i’r Siop Ailddefnyddio yng Nghanolfan Ailgylchu’r Rhyl. Rydym wedi llunio partneriaeth gyda Hosbis Dewi Sant (gwefan allanol) sy’n rhedeg ein siop, lle y defnyddir eu helw i gefnogi gwaith elusennol pwysig yn ardal Gogledd Cymru.

Mae ardal "Dewis ailddefnyddio" yn y Parc Ailgylchu lle y gall ymwelwyr helpu eu hunain i eitemau sydd wedi'u hachub o’r ffrwd wastraff.

Ailgylchu ar gael ar gyfer

  • Caniau erosol
  • Ffoil alwminiwm
  • Batris
  • Batris car
  • Cardfwrdd
  • Cartonau
  • Monitor Cyfrifiadur
  • Cyfrifiaduron
  • Olew coginio
  • Nwyddau trydanol
  • Olew modur
  • Tiwbiau fflworoleuol
  • Oergelloedd a rhewgelloedd
  • Dodrefn
  • Poteli nwy (costau'n daladwy)
  • Poteli a jariau gwydr
  • Gwydr fflat
  • Gwastraff gardd
  • Matresi
  • Ffonau symudol
  • Papur
  • Paent
  • Bwrdd plastr (costau'n daladwy)
  • Poteli plastig
  • Cetris peiriannau argraffu
  • Metel sgrap

Gwasanaethau gwaredu sydd ar gael

Eitemau nad oes modd eu hailgylchu o aelwydydd (rhaid eu gwahanu o'r gwastraff y gellir ei ailgylchu cyn cyrraedd)

Gwastraff peryglus o aelwydydd

Cemegau'r cartref

Codi tâl ar wastraff DIY

Bydd yr awdurdod yn codi tâl i dderbyn gwastraff domestig penodol nad ydynt yn cael eu hystyried yn wastraff y cartref.

Ffioedd gwastraff DIY.

Map o'r lleoliad

Sgipiwch y map gweladwy.