Casgliadau gwastraff ac ailgylchu: Be' sy'n newid?

O ddydd Llun 3 Mehefin 2024, rydym ni’n cyflwyno newidiadau i’r casgliadau gwastraff ac ailgylchu canlynol:

Gwasanaeth bin ar olwynion

Bydd newidiadau i'r gwasanaeth bin ar olwynion yn effeithio ar oddeutu 44,500 o aelwydydd.

Gwasanaeth bin ar olwynion presennol

Mae'r gwasanaeth bin ar olwynion presennol ar gyfer aelwydydd yn cynnwys:

  • Hyd at 240 litr o ddeunyddiau ailgylchu sych cymysg a gesglir o fin glas ar olwynion (bob pythefnos).
  • Hyd at 140 litr o ddeunyddiau nad oes modd eu hailgylchu o fin du ar olwynion (bob pythefnos).
  • Hyd at 23 litr o wastraff bwyd o gadi gwastraff bwyd oren (bob wythnos). Darperir cadi bach arian i’w ddefnyddio yn y tŷ yn ystod yr wythnos.

Bin glas ar olwynion

Bin glas ar olwynion

Ar gyfer deunyddiau ailgylchu sych cymysg (bob pythefnos).

Bin du ar olwynion

Bin du ar olwynion

Ar gyfer gwastraff nad oes modd ei ailgylchu (bob pythefnos).

Cadi oren

Cadi oren

Ar gyfer gwastraff bwyd (bob wythnos) (a chadi bach arian ar gyfer y tŷ).

Gwasanaeth newydd

Bydd y gwasanaeth newydd ar gyfer aelwydydd yn cynnwys:

  • Hyd at 290 litr o ddeunydd ailgylchu wedi'i ddidoli bob wythnos, o:
    • System wahanu'r Trolibocs (deunyddiau ailgylchu sych ac eitemau trydanol bychain).
    • Bag glas amldro (ar gyfer ailgylchu cardbord).
    • Clip batris pinc (ar gyfer batris tŷ).
  • Hyd at 23 litr o wastraff bwyd i’w ailgylchu mewn cadi oren (neu un du efo caead oren o 2023 ymlaen) (ar gyfer gwastraff bwyd) a chadi bach arian i'w gadw yn y tŷ yn ystod yr wythnos.
  • Hyd at 240 litr o ddeunyddiau nad oes modd eu hailgylchu bob 4 wythnos, o'ch bin glas (neu ddu) 240 litr ar olwynion presennol. Byddwn yn darparu bin 240 litr ar olwynion i unrhyw aelwyd sydd heb un.
  • Casgliadau tecstilau, mewn sachau gwyn untro. Darperir y gwasanaeth hwn gan Fenter Gymdeithasol Co-Options.
  • Hyd at 40 litr o gynnyrch hylendid amsugnol fel clytiau a gwastraff anymataliaeth bob wythnos, o gadi du gyda chaead porffor. Mae casgliadau cynnyrch hylendid amsugnol yn wasanaeth am ddim dewisol, ac mae angen cofrestru ar ei gyfer.

Trolibocs

Trolibocs

Ar gyfer ailgylchu deunyddiau sych wedi’u didoli ac eitemau trydanol bychain (bob wythnos).

Bag glas amldro

Bag glas amldro

Ar gyfer ailgylchu cardbord (bob wythnos).

Clip batris pinc amldro

Clip batris pinc amldro

Ar gyfer batris tŷ (bob wythnos).

Cadi oren

Cadi oren

Ar gyfer gwastraff bwyd (bob wythnos) a chadi bach arian ar gyfer y tŷ.


Bin glas (neu ddu) 240 litr ar olwynion

Bin glas (neu ddu) 240 litr ar olwynion

Ar gyfer deunyddiau nad oes modd eu hailgylchu (bob 4 wythnos), o'ch bin glas neu ddu 240 litr ar olwynion presennol.

Sach gwyn untro

Sach gwyn untro

Ar gyfer casgliadau tecstilau. Gwasanaeth dewisol.

Cadi du (gyda chaead porffor)

Cadi du (gyda chaead porffor)

Ar gyfer casgliadau cynnyrch hylendid amsugnol (bob wythnos). Gwasanaeth dewisol. Mae'n rhaid cofrestru.

Gwasanaeth casglu gwastraff nad oes modd ei ailgylchu (gwasanaeth bin ar olwynion)

Bydd pob cartref sy’n derbyn y gwasanaeth bin ar olwynion yn defnyddio bin 240 litr ar gyfer gwastraff nad oes modd ei ailgylchu.

Os oes gennych fin du ar olwynion 140/180 litr a bin glas mwy ar olwynion 240 litr:

  • Defnyddiwch eich bin glas mwy ar olwynion 240 litr ar gyfer gwastraff nad oes modd ei ailgylchu.
  • Gosodwch y sticer (wedi’i gynnwys yn eich pecyn gwybodaeth) ar y bin hwn a fydd yn ei wneud yn amlwg i ni pa un y byddwch yn ei gadw.
  • Rhowch gorau i ddefnyddio’r bin du ar olwynion 140/180 litr gan wneud yn siŵr ei fod yn wag.
  • Byddwn yn casglu eich bin du ar olwynion 140/180 litr gwag rhwng dydd Llun 3 Mehefin a dydd Gwener 2 Awst 2024.

Os oes gennych fin du ar olwynion 240 litr a bin glas ar olwynion 240 litr:

  • Defnyddiwch y bin ar olwynion 240 litr sydd yn y cyflwr gorau ar gyfer gwastraff nad oes modd ei ailgylchu.
  • Gosodwch y sticer (wedi’i gynnwys yn eich pecyn gwybodaeth) ar y bin hwn a fydd yn ei wneud yn amlwg i ni pa un y byddwch yn ei gadw.
  • Rhowch gorau i ddefnyddio’r bin ar olwynion 240 litr arall a gwnewch yn siŵr ei fod yn wag.
  • Byddwn yn casglu eich bin ar olwynion 240 litr gwag arall rhwng dydd Llun 3 Mehefin a dydd Gwener 2 Awst 2024.

Byddwn yn dosbarthu bin 240 litr ar olwynion i gartrefi ar y gwasanaeth bin ar olwynion sydd heb un.

Rhagor o wybodaeth am y newidiadau i’r gwasanaeth casglu gwastraff nad oes modd ei ailgylchu.

Tudalennau cysylltiedig