Ardrethi busnes: Rhyddhad Ardrethi Manwerthu, Hamdden a Lletygarwch
Mae’r Cynllun Rhyddhad Ardrethi Manwerthu, Hamdden a Lletygarwch yn gallu gostwng bil ardrethi annomestig i fusnesau yn y sectorau manwerthu, hamdden a lletygarwch.
Beth sydd ar gael drwy’r cynllun hwn
Mae busnesau cymwys yn gallu derbyn gostyngiad o 75% yn atebolrwydd net eu hardrethi annomestig yn 2023-24.
Mae’r mwyafswm rhyddhad ardrethi a ganiateir drwy’r cynllun hwn ar draws pob eiddo a ddefnyddir gan yr un busnes yng Nghymru yn £110,000 ar gyfer pob blwyddyn ariannol.
Er enghraifft, os ydych wedi derbyn £100,000 o Ryddhad Ardrethi Manwerthu, Hamdden a Lletygarwch gan gyngor arall yng Nghymru ar gyfer 2023-2024, byddem ond yn gallu dyfarnu £10,000 ar draws yr eiddo yn ein hardal ar gyfer 2023-2024.
Cymhwysedd
Mae manylion cymhwysedd ar gyfer y cynllun hwn ar gael ar wefan Busnes Cymru.
Gallwch weld meini prawf cymhwyso ar gyfer Cynllun Rhyddhad Ardrethi Manwerthu, Hamdden a Lletygarwch 2023-2024 (gwefan allanol)
Sut i ymgeisio
I ymgeisio am y cynllun hwn, byddwch angen llenwi ffurflen gais ar gyfer pob blwyddyn ariannol yr hoffech ymgeisio i dderbyn rhyddhad ar ei chyfer.
Os oes gennych fwy nag un eiddo busnes yng Nghymru, byddwch angen nodi ar gyfer pa eiddo yr ydych yn dymuno cael y rhyddhad ar ei gyfer.
Gwneud cais ar-lein
Gallwch ymgeisio am y cynllun hwn ar-lein.
Gwneud cais am Ryddhad Ardrethi Manwerthu, Hamdden a Lletygarwch 2023-2024