Problemau’n talu trethi busnes

Dylech yn wastad roi gwybod inni os ydych yn cael trafferth gwneud taliad oherwydd efallai y gallwn roi rywfaint o help ichi. Gallwch gysylltu â ni, fodd bynnag mewn rhai amgylchiadau, nid yw hi yn wastad yn bosib osgoi gweithrediad adennill.

Coronafeirws - Cymorth i fusnesau

Gweld cymorth i fusnesau

Cyfnodau’r camau adennill

Pan wneir rhywun yn atebol am ardrethi busnes, fe roddir hysbysiad hawlio ac fe nodir y taliadau sy’n ddyledus. Isod mae cyfnodau’r camau adennill y gallwn eu cymryd os na thelir rhandaliadau:

Nodyn atgoffa cyntaf

Os na thelir taliad yn llawn erbyn y dyddiad y gofynnwyd amdano, gellir rhoi nodyn atgoffa, yn rhoi saith diwrnod i’r trefniant gael ei wneud yn gyfredol.

Ail nodyn atgoffa

Os byddwch yn methu â’ch taliadau am yr eildro, gellir rhoi nodyn atgoffa arall. Ond, ni ellir rhoi mwy na dau nodyn atgoffa am un cyfnod bilio.

Hysbysiad Terfynol

Os byddwch yn methu â gwneud taliadau’n gyfredol ar ôl y nodyn atgoffa cyntaf neu’r ail, byddwch yn colli’r hawl i dalu drwy randaliadau gan y rhoddir hysbysiad terfynol fydd yn rhoi saith diwrnod i chi dalu’r swm llawn sydd ar ôl am y flwyddyn ariannol. Yn amodol ar yr amgylchiadau, gellir gwneud trefniant arbennig drwy ddebyd uniongyrchol yn y cam yma, ond, byddai camau adennill yn parhau o’r hysbysiad terfynol os caiff hwn ei ganslo.

Gwysio

Os na thelir yr hysbysiad terfynol (neu os na fydd trefniant arbennig wedi ei sefydlu ac os na fyddwch wedi cadw ato), yna gellir rhoi gwŷs llys i gael gorchymyn atebolrwydd. Mae yna dâl o £70 am roi’r wŷs a byddai hynny’n cael ei ychwanegu at y gweddill.

Asiantau Gorfodi

Unwaith y ceir gorchymyn atebolrwydd, fe drosglwyddir y cyfrif i’r Asiantau Gorfodi. Mwy am y Asiantau Gorfodi.

A allaf newid fy nyddiad talu?

Fel arfer mae taliadau arian parod i’w talu ar y 5ed. Os yw’r dyddiad hwn yn anghyfleus, ystyriwch Ddebyd Uniongyrchol gan ei fod yn rhoi dewis o ddyddiadau talu ichi. 

Anhawster gwneud trafodion ariannol

Cofiwch gysylltu â ni os ydych yn cael problemau gydag unrhyw ddull talu.

Gofynnwch am fil mewn fformat arall 

Mae biliau ardrethi busnes ar gael mewn braille, print bras ac ar gryno ddisg sain. Os hoffech dderbyn eich bil mewn fformat arall, ffoniwch 01824 706000.