Ardrethi Busnes: Data Rhyddid Gwybodaeth

Byddwn yn aml yn cael ceisiadau tebyg am wybodaeth ynglŷn ag eiddo ardrethi busnes (annomestig). I gynorthwyo pawb i gael mynediad at yr hyn sydd ei angen arnynt yn gyflym, yr ydym yn cyhoeddi set ddata sy’n cynnwys yr holl wybodaeth y gallwn ei darparu am eiddo ardrethi busnes.

Mae’r set ddata’n cynnwys yr holl wybodaeth y gallwn ei rhannu am eiddo ardrethi busnes. Os ydych yn anfon cais am wybodaeth sydd eisoes wedi ei chynnwys yn y set ddata, byddwch yn cael eich cyfeirio at y dudalen hon

Yr hyn sy’n cael ei gynnwys yn y set ddata

Dilynwn gyfreithiau diogelu data, sy’n golygu na ellir rhannu rhai mathau o wybodaeth.

Mae’r set ddata’n cynnwys

  • enwau cwmnïau cyfyngedig a sefydliadau cyhoeddus
  • y dyddiad y mae busnes yn dod yn gyfrifol am dalu ardrethi busnes
  • gwybodaeth am eiddo, sydd eisoes ar gael ar wefan Asiantaeth y Swyddfa Brisio (gwefan allanol), yn cynnwys:
    • rhif cyfeirnod adnabod eiddo
    • cod a disgrifiad eiddo
    • gwerth trethiannol

Gwybodaeth nad ydym yn ei chynnwys

Nid yw’r set ddata yn cynnwys:

  • manylion unigolion, fel unig fasnachwyr neu bartneriaethau: mae hyn yn ddata personol
  • manylion eiddo gwag: ni ddarperir y rhain oherwydd byddai cyhoeddi’r wybodaeth hon yn cynyddu’r risg o drosedd
  • rhyddhadau (gostyngiadau): ni ddarperir y rhain oherwydd byddai cyhoeddi’r wybodaeth hon yn cynyddu’r risg o drosedd
  • rhifau cyfrifon: defnyddir y rhain i wirhau deiliaid cyfrifon
  • balansau credyd: dim ond i ddeiliad cyfrif y datgelir y rhain.

Gellwch gysylltu â thîm Mynediad at Wybodaeth os oes gennych unrhyw ymholiadau ynglŷn â’r wybodaeth na chynhwysir yn y set ddata. 

Y set ddata ddiweddaraf

Gellwch lawrlwytho’r set ddata ddiweddaraf:

Ardrethi Annomestig Cenedlaethol (Ardrethi Busnes) (MS Excel, 748KB)

Diweddarwyd ddiwethaf: 14 Gorffennaf 2025

Balansau credyd

Bydd unrhyw falansau credyd ar gyfrifon ar 31 Mawrth yn cael eu trosglwyddo’n awtomatig i’r flwyddyn ariannol newydd.