Cynllun Creu Lleoedd y Rhyl: Wyth Syniad Mawr

Mae'r 8 syniad mawr yn seiliedig ar y Meysydd Ffocws Allweddol, y 4 Problem Fwyaf a'r 4 Ased Mwyaf y gwnaethom siarad â mwy na 2,500 o bobl leol amdanyn nhw dros gyfnod o 12 mis yn 2018-19.

Pan wnaethom ni ail-rannu'r 8 syniad mawr ar ddechrau 2019, roedd yr adborth yn gadarnhaol iawn! Diolch i bob un a gymerodd ran yn y gwaith o lunio'r syniadau ac i'r rhai sy’n parhau i gymryd rhan yn y gwaith o'u gwneud nhw'n realiti.

Yn rhan o ddiweddaru Cynllun Creu Lleoedd y Rhyl, cynhaliwyd dau weithdy gyda Swyddogion y Cyngor ym mis Hydref a mis Tachwedd 2024, i roi cyfle iddynt ystyried a rhoi sylw ar Gynllun Creu Lleoedd y Rhyl sydd wedi’i ddiweddaru.

Mae'r sylwadau yma wedi cael eu cynnwys yng Nghynllun Creu Lleoedd y Rhyl sydd wedi'i ddiweddaru.

Yn ogystal â’r 8 syniad mawr sy’n ffurfio sail i Gynllun Creu Lleoedd y Rhyl, rydym yn cydnabod bod y pethau bach yn bwysig hefyd. Er nad ydynt wedi'u cwmpasu'n benodol yn yr 8 syniad mawr, rhoddir ystyriaeth i'r canlynol wrth i Gynllun Creu Lleoedd y Rhyl fynd ymlaen:

  • Lleoliad llefydd parcio ar gyfer trigolion ac ymwelwyr
  • Toiledau
  • Darpariaeth / hygyrchedd ar gyfer pobl anabl, gan gynnwys llefydd parcio
  • Arwyddion yn y dref ac o'i hamgylch
  • Darpariaeth chwarae i blant, pobl ifanc a theuluoedd
  • Cyfleusterau cymunedol yn benodol ar gyfer yr henoed
  • Goleuadau stryd
  • Biniau/ailgylchu
  • Glanhau'r strydoedd a'r broblem gyda gwylanod
1. Ailuno'r traeth a chanol y dref

Y traeth yw un o asedau gorau'r Rhyl. Bydd gwella'r berthynas rhwng y traeth a chanol y dref yn hanfodol ar gyfer llwyddiant y dref yn y dyfodol.

Glan Y Môr: Yr Egwyddorion

  • Ymestyn y Stryd Fawr yr holl ffordd i'r traeth
  • Y posibilrwydd i gynnwys tirnod neu nodwedd cyrchfan newydd ar y traeth
  • Archwilio'r syniad o dynnu'r bont gerdded bresennol i lawr i agor cysylltiadau gweledol â'r traeth.
  • Ailgynllunio'r gylchfan a Rhodfa'r Dwyrain a’r Gorllewin i wella cysylltedd cerddwyr i'r traeth
  • Clirio The Parade
  • Cynnwys croesfannau cwrteisi yn rheolaidd i wella ac annog symudiad cerddwyr rhwng cyrchfannau glan y môr (e.e. SC2) a gweddill canol y dref
  • Lledaenu'r pafin o flaen Adeiladau’r Frenhines er mwyn annog i bobl ddod allan i'r stryd, gan greu amgylchedd bywiog a phrysur
  • Defnyddio'r arena digwyddiadau! Annog digwyddiadau cymunedol a mwy o ddefnydd o'r ased presennol hwn.

Egwyddorion Creu Lleoedd ar Waith

  • Symud
  • Parth Cyhoeddus
  • Pobl a Chymuned
  • Hunaniaeth
2. Ehangu'r cynnig hamdden presennol ac arallgyfeirio'r dewis o ran manwerthu a bwyd

Mae gan y Rhyl nifer o atyniadau hamdden eisoes, gan gynnwys parc dŵr SC2 newydd, sydd ar y trywydd iawn i ddenu 200,000+ o ymwelwyr ychwanegol i'r dref bob blwyddyn. Dylid ehangu ar y cynnig hamdden i greu ystod ehangach o weithgareddau hamdden poblogaidd ar gyfer pob oedran.

Bydd cynnig manwerthu a bwyd o ansawdd (defnyddio cynnyrch lleol gwych Gogledd Cymru!) gyda siopau a chaffis annibynnol, bwytai teuluol, bwyd stryd, tafarndai o ansawdd a cherddoriaeth fyw oll yn helpu i wneud canol y dref yn gyrchfan cynhwysol a chroesawgar i bawb, ac hefyd yn creu swyddi i bobl leol.

Egwyddorion Creu Lleoedd ar Waith

  • Defnyddiau cymysg
  • Lleoliad
  • Parth Cyhoeddus
  • Pobl a Chymuned
  • Hunaniaeth
3. Creu Canol Tref brysurach drwy gydol y dydd a gyda'r nos

Bydd cyflwyno cymysgedd iach o ddefnyddiau ochr yn ochr â'r cynnig manwerthu a masnachol, gan gynnwys swyddfeydd, lle i gydweithio a datblygiad preswyl o ansawdd uchel yn helpu i sicrhau bod pobl ar y strydoedd drwy gydol y dydd ac ar bob adeg o'r flwyddyn.

Bydd hyn yn cyfrannu at nifer fwy o ymwelwyr i fasnachwyr lleol ac amgylchedd diogelach i bawb. Bydd hefyd yn helpu i wella nifer y swyddi o ansawdd da yng nghanol y dref, gan drawsnewid y Rhyl yn le bywiog a phrysur drwy'r flwyddyn.

Egwyddorion Creu Lleoedd ar Waith

  • Defnyddiau cymysg
  • Lleoliad
  • Parth Cyhoeddus
  • Pobl a Chymuned
4. Creu mannau dinesig i fod yn falch ohonynt

Mae'r Rhyl yn haeddu mannau cyhoeddus hardd ac ymarferol y mae pobl am ymweld â nhw a lle gall y bobl leol fod yn falch ohonynt. Mae Cynllun Creu Lleoedd y Rhyl yn rhoi pwyslais ar Sgwâr Neuadd y Dref a'r Stryd Fawr fel cyrchfannau allweddol yng nghanol y dref.

Egwyddorion Creu Lleoedd ar Waith

  • Parth Cyhoeddus
  • Pobl a Chymuned
  • Hunaniaeth

Sgwâr Neuadd y Dref

Sgwâr Neuadd y Dref ddylai fod yn galon i’r dref; lle hardd, adnabyddadwy a hygyrch sy'n dathlu pensaernïaeth neuadd y dref ac yn denu pobl i mewn.

Yr Egwyddorion - Sgwâr Neuadd y Dref:

  • Creu canolbwynt – uwchganolbwynt newydd ar gyfer y dref yn y lle cywir
  • Tacluso'r sgwâr; creu rhywbeth tebyg i lwyfan sy’n amlygu pensaernïaeth neuadd y dref
  • Ymestyn 'carped' y sgwâr at ffasadau'r adeiladau cyfagos – ystyried y gofod mewn modd cyfannol
  • Ei wneud yn adnabyddadwy a hygyrch i bawb – "beth am gwrdd yn Neuadd y Dref?"
  • Creu amgylchedd deniadol a diogel i aros / cwrdd / ymgynnull
  • Rhoi'r flaenoriaeth i gerddwyr – ystyried llif cerddwyr a llwybrau answyddogol (yn arbennig Heol Y Frenhines a Stryd y Farchnad)
  • Creu gofod hyblyg – lle gellir cynnal digwyddiadau dinesig a phethau eraill
  • Goleuo Neuadd y Dref – rhoi presenoldeb iddo bob amser dydd/nos

Egwyddorion Creu Lleoedd ar Waith

  • Parth Cyhoeddus
  • Pobl a Chymuned
  • Hunaniaeth

Y Stryd Fawr

Y Stryd Fawr yw un o'r cysylltwyr allweddol rhwng canol y dref a'r traeth, ond ar hyn o bryd mae'r berthynas hon wedi'i thorri yn lle mae’r Stryd Fawr yn cwrdd â The Parade.

Bydd ailgynllunio'r croestoriad allweddol hwn, ynghyd â gwelliannau i'r strydlun presennol yn trawsnewid y stryd fawr yn gyrchfan brysur i ymfalchïo ynddo.

Yr Egwyddorion - Y Stryd Fawr:

  • Ail-gysylltu â'r traeth
  • Tacluso
  • Gwneud y strydoedd yn fwy gwyrdd – cyflwyno coed stryd lle y bo'n bosibl
  • Annog siopau a chaffis i ddod allan i'r stryd gan greu amgylchedd bywiog a phrysur
  • Palet deunyddiau syml ac o ansawdd uchel
  • Cyflwyno datblygiad preswyl o safon uchel uwchben unedau manwerthu

Egwyddorion Creu Lleoedd ar Waith

  • Parth Cyhoeddus
  • Pobl a Chymuned
  • Hunaniaeth
5. Creu mannau gwych i dreulio amser ynddynt, beth bynnag fo'r tywydd

Boed law neu hindda, mae angen lleoedd deniadol a chysgodol ar y Rhyl i bobl dreulio amser ynddynt. Byddai gwella strydoedd cysgodol y dwyrain i'r gorllewin, creu iardiau newydd deniadol a lleoedd dan do clyd yn annog pobl i aros yng nghanol y dref, hyd yn oed yng nghanol tywydd gwaethaf Prydain Fawr!

Egwyddorion Creu Lleoedd ar Waith

  • Parth Cyhoeddus
  • Pobl a Chymuned
  • Hunaniaeth

Yr Egwyddorion: Sussex Street, Cornel Heol Y Frenhines a Stryd y Farchnad

  • Tacluso
  • Llwybr blaenoriaeth i gerddwyr gydag arwyneb cyson o ffasâd i ffasâd
  • Llwybr unffordd i gerbydau gwasanaeth
  • Manteisio ar yr amgylchedd cysgodol (y ffasâd sy'n wynebu tua'r de yn y farchnad) – cyflwyno coed ac annog pobl i aros a threulio amser yma
  • Annog pobl sy’n defnyddio Adeiladau'r Frenhines a'r cyffiniau i ddod allan ar y stryd
  • Cynnal stondinau dros dro / marchnadoedd stryd ac ati
  • Potensial ar gyfer golau catena i greu amgylchedd nos deniadol
  • Creu pwynt nodol allweddol ar groesffordd Stryd Sussex a Stryd y Frenhines – cerbytffordd gul a phalmant llydan i greu gofod ar y pedwar cornel
  • Defnyddio goleuadau i amlygu'r pedair cornel siamffrog
6. Trawsnewid Adeiladau'r Frenhines yn ased cymunedol bywiog

Mae cam cyntaf y datblygiad, yn cynnwys y neuadd farchnad gyfoes wedi cael ei gwblhau, a bydd gwelliannau i’r elfennau allanol yn dilyn yn fuan. Mae Cam 2/3 yn amodol ar gymeradwyaeth cynllunio ac ymgynghoriad cyhoeddus pellach.

Egwyddorion Creu Lleoedd ar Waith

  • Symud
  • Defnyddiau cymysg
  • Lleoliad
  • Parth Cyhoeddus
  • Pobl a Chymuned
  • Hunaniaeth
7. Ei wneud yn gyrchfan i bobl leol...daw'r twristiaid i'w canlyn

Canolbwyntio ar y gymuned leol i ddechrau. Pobl leol yw anadl einioes canol trefi ac mae cyfle gwych i'w hail-ymgysylltu i dreulio amser ac arian yng nghanol y dref trwy ddarparu'r cynnig cywir.

Bydd canol tref sy'n darparu ar gyfer y bobl leol yn cael ei defnyddio drwy'r flwyddyn, a daw ymwelwyr o bell ac agos i'w canlyn yn fuan iawn.

Egwyddorion Creu Lleoedd ar Waith

  • Symud
  • Defnyddiau cymysg
  • Lleoliad
  • Parth Cyhoeddus
  • Pobl a Chymuned
  • Hunaniaeth
8. Creu cyfleoedd i'r gymuned leol siapio canol eu tref a bod yn uchelgeisiol

Mae hyn yn bwysig iawn i ni. Mae’n ymwneud â sut mae Cynllun Creu Lleoedd y Rhyl yn cael ei gyflwyno a gan bwy.

Grymuso pobl a busnesau lleol i gymryd perchnogaeth o ganol eu tref yw un o'r ffyrdd gorau i sicrhau parch, gwytnwch a hunaniaeth mewn tref. Trwy ddarparu cyfleoedd i'r gymuned leol siapio canol tref y Rhyl, y gobaith yw y bydd ymdeimlad o falchder a phwrpas yn dod i'r amlwg, gan gyfrannu at wneud canol y dref yn fwy croesawgar ac, yn ei dro, denu buddsoddiad, twristiaid a siopwyr.

Credwn y bydd presenoldeb yr Swyddfeydd Cyngor y Dref yng nghanol y dref, ynghyd â gwelededd y Ganolfan Dechnoleg wrth yr orsaf yn helpu i godi dyheadau a chyflawni camau gweithredu lleol sy'n dechrau trawsnewid canfyddiadau pobl o'r lle.

Egwyddorion Creu Lleoedd ar Waith

  • Parth Cyhoeddus
  • Pobl a Chymuned
  • Hunaniaeth

Os hoffech gais am gopi PDF o Cynllun Creu Lleoedd y Rhyl, anfonwch e-bost atom yn econ.dev@sirddinbych.gov.uk.