Sut datblygwyd Gweledigaeth Canol Tref y Rhyl

Daw gweledigaeth Canol Tref y Rhyl o ymdrech gydweithredol rhwng pobl o gefndiroedd cyhoeddus, preifat a chymunedol sydd â gwir ddiddordeb mewn creu dyfodol gwell i'r Rhyl. Mae'n seiliedig ar y materion a amlygwyd gan bobl leol ac awgrymiadau, atebion a syniadau llawer mwy.

Mae'r broses o ddatblygu'r weledigaeth wedi cydlynu ac egluro pwrpas i ymdrechion i gefnogi dyfodol tymor hir mwy disglair i'r dref, a bwriedir i'r ddogfen ‘Gweledigaeth y Rhyl’ gael ei defnyddio fel pwynt cyfeirio cyson ar gyfer y rhai sy'n gwneud penderfyniadau, datblygwyr a buddsoddwyr a fydd yn cyflymu'r broses adfywio yn y dref. Mae'n anfon neges glir i drigolion a'r byd ehangach bod hyder a chanfyddiadau mewn perthynas â Chanol Tref y Rhyl yn newid - ac yn parhau i newid - er gwell.

Datganiad o Weledigaeth

"Tref glan môr modern, nodedig, sy'n diwallu anghenion ei chymuned, ac yn rhoi rheswm i bobl o'r Rhyl a thu hwnt ymweld â hi."

Canol Tref y Rhyl - Gweledigaeth - Datganiad o Weledigaeth