Canllaw defnyddio micro-ddarparwr

Os ydych chi'n talu am eich gofal eich hun, neu'n derbyn Taliad Uniongyrchol gan Gyngor Sir Ddinbych, fe allwch chi ddewis talu micro-ddarparwr i’ch cefnogi chi.

Beth yw micro-ddarparwr?

Mae micro-ddarparwr yn fusnes bychan, lleol sy’n cael ei redeg gan unigolion lleol ac sy’n cynnig gwasanaethau i gefnogi:

  • Pobl hŷn.
  • Pobl ag anabledd.
  • Pobl sydd eisiau gwella eu hiechyd meddwl a'u lles.
  • Pobl Ifanc (14 -18 oed).

Er mwyn eu helpu nhw i fyw’r bywyd gorau posibl.

Mae micro-ddarparwr yn rhoi mwy o ddewis i chi o ran eich gofal a’ch cefnogaeth gan eu bod yn gallu cynnig rhywbeth gwahanol i wasanaethau cefnogi traddodiadol.

Maen nhw’n gallu cynnig amrywiaeth o gefnogaeth i helpu i ddiwallu eich anghenion:

Cefnogaeth yn y cartref: gofal personol, coginio, glanhau, siopa, mynd ar neges, cwmni.

Cefnogaeth i fynd allan o gwmpas yn y gymuned: gweithgareddau, diddordebau, therapïau, dysgu sgiliau newydd, gwasanaethau dydd, cefnogaeth gan gymheiriaid.

Mae’r gwasanaethau a gynigir gan ficro-ddarparwyr yn ceisio helpu pobl i fyw yn eu cartrefi eu hunain yn hirach a gwella eu bywydau ar yr un pryd.

Mae micro-ddarparwyr yn hyblyg ac yn bersonol, ac yn gallu teilwra pethau i'ch anghenion a’ch dymuniadau chi.

Manteision defnyddio micro-ddarparwr

  • Bydd gennych chi fwy o ddewis a rheolaeth dros eich gofal a’ch cefnogaeth.
  • Dewis o wasanaethau amrywiol.
  • Gwasanaethau hyblyg.
  • Wedi'i redeg gan bobl leol yn eich cymuned.
  • Dim cyfrifoldebau cyflogaeth.
  • Cyfraddau cystadleuol.

Beth yw Taliad Uniongyrchol?

Taliad Uniongyrchol yw taliad a wneir yn uniongyrchol i chi fel eich bod chi wedyn yn gallu dewis pwy sydd arnoch chi eisiau eu defnyddio i ddarparu eich gofal a’ch cefnogaeth er mwyn i chi gyrraedd eich nodau.

Rydych chi’n trefnu’r gofal a’r gefnogaeth yma eich hun, neu gyda chefnogaeth aelod o’r teulu neu ffrind, felly mae gennych chi reolaeth lwyr dros bwy sydd yn eich helpu.

Byddwn yn rhoi cerdyn rhagdaledig i chi er mwyn i chi dalu am y gwasanaethau eich hun.

Am fwy o wybodaeth am y cardiau rhagdaledig neu’r Taliadau Uniongyrchol, cysylltwch â’r Tîm Taliadau Uniongyrchol ar taliadau.uniongyrchol@sirddinbych.gov.uk neu ffonio Un Pwynt Mynediad ar 0300 4561000 rhwng 8am a 6pm o ddydd Llun i ddydd Gwener.

Sut ydw i'n gallu dod o hyd i ficro-ddarparwr lleol?

Mae’r micro-ddarparwyr wedi’u rhestru ar sawl cyfeiriadur gofal a chefnogaeth; ac mae rhai ohonyn nhw wedi’u rhestru isod:

Beth i'w wneud os hoffech chi ddefnyddio micro-ddarparwr

Gan eich bod chi’n trefnu eich gofal a’ch cefnogaeth yn annibynnol, hebom ni’n gwneud hyn i chi, mae’n bwysig iawn eich bod chi’n:

  • Gwybod yn union beth sydd arnoch chi eisiau o’r gwasanaeth rydych chi’n talu amdano.
  • Gwneud ychydig o ymchwil i’r micro-ddarparwr yr hoffech chi ei ddefnyddio.

Cyn i chi ddefnyddio gwasanaeth micro-ddarparwr, argymhellir yn gryf eich bod chi’n siarad neu’n cwrdd â’r micro-ddarparwr yn gyntaf. Byddwch yn prynu gwasanaethau neu gefnogaeth yn uniongyrchol ganddyn nhw, felly mae’n rhaid i chi fod yn siŵr eu bod yn gallu gwneud y pethau sydd arnoch chi eu heisiau yn y ffordd sy’n gywir i chi.

Gall ein rhestr wirio eich helpu chi i feddwl am bethau i’w hystyried.

Yn gyntaf, bydd arnoch chi angen syniad go dda o’r canlynol:

  • Pa gefnogaeth sydd arnoch chi ei hangen.
  • Sut hoffech chi i’r gefnogaeth yma gael ei darparu.
  • Pryd sydd arnoch chi eisiau’r gefnogaeth.

Gallwch rannu’r wybodaeth yma efo micro-ddarparwr sydd o ddiddordeb i chi, a bydd yn gallu dweud wrthoch chi a yw’n gallu darparu’r math yma o gefnogaeth yn y ffordd sydd arnoch chi ei hangen.

Yn ail, mae’n rhaid i chi ddod i adnabod y micro-ddarparwr.

Gwnewch yn siŵr fod gan eich micro-ddarparwr y pethau sylfaenol:

  • Gwiriad y Gwasanaeth Datgelu a Gwahardd (DBS).
  • Yswiriant.
  • Hyfforddiant Diogelu.
  • Cofrestriad Busnes.

Pethau eraill i feddwl amdanyn nhw

Yn dibynnu ar ba wasanaeth cefnogi sydd arnoch chi ei angen, dyma restr o’r pethau eraill y bydd arnoch chi angen eu hystyried wrth edrych ar ficro-ddarparwr posibl:

  • Hyfforddiant penodol.
  • Polisïau a gweithdrefnau.
  • Asesiadau risg.
  • Amodau a thelerau.
  • Gwybodaeth am anfonebu.

Os oes arnoch chi angen mwy o wybodaeth am y Rhaglen Ddatblygu cysylltwch â Nick Hughes, Dirprwy Reolwr Tîm, Tîm Ar Ymyl Gofal Sir Ddinbych ar nick.hughes@sirddinbych.gov.uk neu 07747461646.

Os oes gennych chi bryderon ynghylch diogelu, cysylltwch â Thîm Diogelu, Gwasanaeth Gofal Cymdeithasol Oedolion a Digartrefedd, Cyngor Sir Ddinbych ar:

0300 4561 000 8am - 6pm dydd Llun i ddydd Gwener ac o 10am - 4pm ar benwythnosau a gwyliau banc; neu 0345 053 3116 y tu allan i’r oriau yma.