Prosiectau Cronfa Ffyniant Gyffredin y DU: Cynyddu lefelau cynhwysiant digidol a sgiliau digidol sylfaenol ar draws Sir Ddinbych

Logo Wedi ei ariannu gan Llywodraeth y DU

Arweinydd y Prosiect: Cwmpas

Trosolwg o’r prosiect

Bydd y prosiect hwn yn cynnig cefnogaeth i unigolion â chynhwysiant digidol .

Bydd cefnogaeth yn cael ei roi ar ffurf cyngor a hyfforddiant cynhwysiant digidol a bydd dyfeisiau addas yn cael eu darparu i unigolion yn dibynnu ar eu hanghenion.

Bydd cefnogaeth yn cael ei darparu mewn amryw o ffyrdd, gan gynnwys:

  • galwadau ffôn i addysgu pobl sut i ddefnyddio gwefannau ac apiau
  • dosbarthiadau digidol mewn cymunedau
  • grantiau neu dalebau ar gyfer offer a/neu ddata
  • atgyfeirio unigolion i wasanaethau cyflogadwyedd ac addysg bellach

Hyder Digidol Sir Ddinbych

Mae Cwmpas yn cynnal digwyddiadau wyneb yn wyneb ac ar-lein er mwyn helpu pobl i gael cymorth digidol. Ceir rhagor o wybodaeth am y digwyddiadau, gan gynnwys sut i archebu lle, ar wefan Cwmpas.

Ewch i wefan Cwmpas (gwefan allanol)

Diweddariad y prosiect

Mawrth 2024

Ers dechrau’r prosiect, cyflogwyd tri o hyfforddwyr i ddatblygu ac addasu cyfres o ddeunyddiau hyfforddi a chreu brand unigryw ar eu cyfer. Aed ati i ddarparu’r hyfforddiant yn Ninbych a Rhuthun cyn y Nadolig, ac erbyn hyn fe’i cynhaliwyd hefyd yn y Rhyl, Prestatyn, Rhuddlan, Llanelwy, Corwen a Llangollen.

Hyd yn hyn, mae’r prosiect wedi darparu hyfforddiant i fwy na saith deg o wahanol bobl ac mae llawer o’r rheiny wedi dychwelyd am sesiynau eraill. Cynigiwyd sesiynau galw heibio ar gyfer Sgiliau Digidol Hanfodol, Siopa’n Ddiogel Ar-lein, Rhoi Cychwyn Arni â’ch Dyfais ac Iechyd a Lles Digidol, a sesiynau ar-lein ynglŷn â Gwario ac Arbed Arian. Mae’r prosiect wedi dechrau cynnal sesiynau ar-lein ac wyneb yn wyneb yn ddiweddar i helpu pobl i gofrestru ar gyfer ap digidol newydd y GIG a’i ddefnyddio. Bu’r prosiect hefyd yn cynnal sesiynau cymorth digidol i bobl oedd yn mynd i’w sesiynau yn y Ganolfan Waith, mewn partneriaeth â Sir Ddinbych yn Gweithio.

Logo Wedi'i Yrru Gan Ffyniant Bro